Datganiadau i'r Wasg

Gwobr Artes Mundi 2006 — Cyhoeddi'r Rhestr Fer Ryngwladol

Mae'r artist o Gymru Sue Williams yn un o wyth artist sydd wedi'u dewis ar gyfer Artes Mundi, Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, Medi 28).

Sue Williams, sy'n gweithio yng Nghaerdydd, yw'r unig artist o wledydd Prydain i gael ei dewis fel rhan o'r rhestr fer ar gyfer y wobr fawr o £40,000. Mae gwaith Sue Williams yn ymateb angerddol i'r cyflwr dynol; yn ymchwilio i syniadau am ryw, rhywioldeb ac agweddau ar chwant. Gwelir ei gwaith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian a'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â sawl casgliad preifat ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae'r artistiaid a ddewiswyd gan ddau guradur rhyngwladol, Deepak Ananth, sy'n gweithio fel Hanesydd Celfyddyd India a Churadur celf fodern a chyfoes ym Mharis, a'r curadur, beirniad a llenor o Frasil, Ivo Mesquita – ffigur blaenllaw ym myd celf weledol America Ladin, yn cynnwys artistiaid sydd wedi arddangos gwaith mewn arddangosfeydd rhyngwladol diweddar megis Biennale Fenis, Documenta XI a Biennale Sao Paolo. Dyma'r wyth artist:

Eija-Liisa Ahtila, Thomas Demand, Mauricio Dias a Walter Riedweg, Leandro Erlich, Subodh Gupta, Sue Williams a Wu Chi-Tsung.

Eija-Liisa Ahtila – ganwyd ac mae'n gweithio yn Helsinki, y Ffindir. Mae Ahtila'n disgrifio'i gwaith fel ‘dramâu dynol' sydd wedi'u seilio ar ei sylwadau a'i phrofiadau hi ei hun drwy gyfrwng ffilm a fideo.

Thomas Demand – ganwyd yn Hamburg ac mae'n gweithio yn Berlin. Mae gwaith Demand yn cyfuno syniadolaeth a ffotograffiaeth, gan ddefnyddio proses o adeiladu, cynrychioli ac ailadrodd. Bydd yn ail-greu'n fanwl fodelau maint llawn o du mewn neu du allan adeiladau, gan dynnu ffotograff o'r adeiladwaith cyn ei ddinistrio.

Mauricio Dias a Walter Riedweg – Mae'r artist o Frasil Mauricio Dias a'r artist o'r Swistir Walter Riedweg wedi cydweithio ers 1993. Mae eu hymchwil a'u cydweithiau, a gyflwynir amlaf ar ffurf gosodweithiau fideo, yn ymchwilio i fywydau grwpiau o bobl sy'n byw ar ymylon diwylliannau prif ffrwd, fel mewnfudwyr a phuteiniaid, neu ar ffiniau daearyddol, fel heddlu'r gororau.

Leandro Erlich – ganwyd ac mae'n gweithio yn Buenos Aires, yr Ariannin. Mae ei gerfluniau a'i osodweithiau mawr yn creu byd o dwyll a rhith; ni ellir agor drysau, bydd tyllau sbecian yn datgelu'r annisgwyl a cheir drychau di-adlewyrchiad. Mae Erlich yn herio syniad arferol y gwyliwr am realiti drwy greu profiad annisgwyl o fewn amgylchedd cyfarwydd. Mae'n arddangos gwaith ar hyn o bryd yn yr 51fed La Biennale Venezia.

Subodh Gupta – ganwyd yn Khagoul, Bihar, yr India ac mae'n byw ac yn gweithio bellach yn Delhi Newydd. Mae Subodh Gupta yn gweithio mewn sawl cyfrwng o gerflunwaith a pheintio i osodwaith, ffotograffiaeth, fideo a pherfformiad. Bydd yn codi statws pethau bob-dydd cefn gwlad yr India i fod yn weithiau celf – tail gwartheg, bwcedi llaeth, taclau cegin, sgwters, gynnau a phowdwr gulal. Mae'n arddangos gwaith ar hyn o bryd yn yr 51fed La Biennale Venezia.

Sue Williams – ganwyd yng Nghernyw ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Hanfod ei gwaith yw ei hymateb angerddol i'r cyflwr dynol, diddordeb yn ffantasïau ffeministiaeth, rhywioldeb a rhyw, a'r syniad o chwant rhywiol a chwant ymenyddol.

Wu Chi-Tsung – ganwyd yn Taipei, Taiwan, lle mae'n byw ac yn gweithio o hyd. Enillodd Wobr Gelfyddydau Taipei yn 2003, ac mae ei waith diweddar yn ymchwilio i'r syniad o “ddelwedd” drwy wahanol gyfryngau megis fideo, ffotograffiaeth a gosodwaith mecanyddol.

Yn 2004 dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi am y tro cyntaf, a hynny i'r artist o Tsieina, Xu Bing. Digwyddiad rhyngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yw Artes Mundi i gydnabod rhai o artistiaid gweledol mwyaf cyffrous ein hoes o bob rhan o'r byd, y mae eu gwaith yn ymchwilio i'r ffurf ddynol a'r cyflwr dynol. Mae'n cynnwys arddangosfa fawr, rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus, gwobr o £40,000 i un artist a chronfa brynu i alluogi prynu gweithiau i'r Casgliadau Cenedlaethol.

Gellir gweld yr arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn unig, a hynny o 11 Chwefror hyd 7 Mai 2006. Cyflwynir y wobr Dydd Gwener, 31 Mawrth 2006.

Dyma aelodau panel beirniaid ail Wobr Artes Mundi:

Paolo Colombo, Curadur MAXXI Museo nazionale delle arti del XXI Secolo, Rhufain, yr Eidal

Jenni Spencer-Davies, Curadur, Oriel Glynn Vivian, Abertawe, Cymru

Thelma Golden, Dirprwy Gyfarwyddwr Arddangosfeydd a Rhaglenni a Phrif Guradur yn Amgueddfa The Studio yn Harlem, Efrog Newydd

Gerardo Mosquera, Curadur yr Amgueddfa Gelfyddyd Gyfoes Newydd yn Efrog Newydd, sydd wedi'i benodi'n Gadeirydd. Cai Guo-Qiang, yr artist Tsieineaidd o fri rhyngwladol sydd ar hyn o bryd yn arddangos gwaith newydd yn ei arddangosfa unigol gyntaf yng ngwledydd Prydain yn y Fruitmarket, Caeredin.

Cefnogir Artes Mundi yn hael gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Caerdydd, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, BBC Cymru, BT, Bwrdd Croeso Cymru Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Western Mail a'r Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Am wybodaeth bellach cysyllter â:

Julie Richards, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Artes Mundi: Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Cymru
Lein uniongyrchol: 029 2072 3146
Ffôn symudol: 07876 476695
Ebost: julierichards@artesmundi.org

www.artesmundi.org