Datganiadau i'r Wasg

Llamu â lliw

Mae'r paratoadau'n prysuro wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe baratoi i lansio'r Darlun Mawr ar 8 Hydref.

Mae'r Darlun Mawr yn ei chweched flwyddyn erbyn hyn – a bydd dathliad 2005 yn anfon ton o greadigrwydd o Abertawe a ledled y wlad.

Dathliad mis o hyd yw'r Darlun Mawr, sef sioe fawr flynyddol yr Ymgyrch dros Ddarlunio. Mae'n rhoi cyfle i bobl o bob lliw a llun chwarae ac arbrofi gyda lliwiau, deunydd a syniadau.

Dyma'r digwyddiad swyddogol cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a fydd yn agor ar 18 Hydref a bydd y bobl sy'n cymryd rhan ymysg y cyntaf i gael eu hysbrydoli ganddi. Mae'n argoeli'n dda i fod yn ddechrau byrlymus i'r adeilad.

Gwahoddir pawb i fod yn greadigol ac ymuno ag artistiaid, cyrff lleol a grwpiau cymunedol a fydd yn dod ynghyd i ddathlu diwrnod llawn hwyl.

Ers i'r Darlun Mawr gychwyn yn 2000, mae hi wedi denu dros filiwn o bobl nôl i ddarlunio ac wedi torri dau Record y Byd Guinness – am y darlun hiraf yn y byd, ac am y nifer fwyaf o bobl yn tynnu llun yr un pryd.

Bydd digonedd o weithgareddau yn yr Amgueddfa, a'r adeilad ei hun fydd y prif ffocws. Meddai Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris: “ Rydyn ni am i ymwelwyr gael eu hysbrydoli a tynnu ar y profiad gwych sy'n eu disgwyl nhw yma.”

Ychwanegodd y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh:

"Bydd Amgueddfa newydd Cymru'n ddelfrydol i ysbrydoli artistiaid ifanc Cymru. Dyma ffordd wych o annog pobl ifanc i ymweld â'n hamgueddfeydd a dysgu gwahanol bethau am hanes.”

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys cynllunio eich ystafell eich hun, pori trwy rhannau o'r adeilad diddorol yma, arbrofi gyda brwshys paent metr o hyd, ac ychwanegu at furflun o dreflun Abertawe.

Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithgareddau eraill llawn hwyl, gan gynnwys gwneud baneri ar gyfer penwythnos y lansiad, gwneud hunan-bortreadau ar blatiau, gwylio diddanwyr stryd yn creu eu gweithiau celf eu hunain, cystadlaethau a gweithgareddau braslunio.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Persil, Berol a Sefydluad Esmee Fairbairm yn cefnogi'r ymgyrch.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o saith amgueddfa Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar draws Cymru. Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion, Big Pit – enillydd gwobr fawr Gulbenkian eleni, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Edrychwch ar y wefan i weld digwyddiadau eraill y Darlun Mawr yn ein holl safleoedd www.aocc.ac.uk.

Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gymryd rhan, ewch i www.drawingpower.org.uk i gael manylion dros fil o ddigwyddiadau ledled Prydain.