Datganiadau i'r Wasg

Seren Byd Rygbi'n Lawnsio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bydd seren y byd rygbi, Gareth Edwards a Phrif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC yn agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe heddiw (17 Hydref).

Mae amgueddfa genedlaethol ddiweddaraf Cymru'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru trwy lygaid pobl Cymru – a'r byd – trwy'r oesoedd. Adeiladwyd yr amgueddfa diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) a Dinas a Sir Abertawe. Ar ôl agor, daw'r amgueddfa'n un o saith amgueddfa genedlaethol yng Nghymru dan adain AOCC.

Dyma'r amgueddfa genedlaethol gyntaf i agor ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno polisi mynediad am ddim yn 2001, a dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC:

“Mae hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i Abertawe a Chymru. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fydd uchafbwynt adfywiad glannau Abertawe, a bydd yn arf pwerus i ddenu ymwelwyr i ddysgu am ein hanes diwydiannol a morwrol diddorol, fel gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd.

Mae'r amgueddfa newydd yn dod â'n treftadaeth diwydiannol a morwrol yn fyw mewn ffordd ryngweithiol, llawn gwybodaeth a hwyliog. Byddwn yn gweithio gyda Dinas a Sir Abertawe ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i sicrhau ei llwyddiant hir-dymor. Mae'r amgueddfa hon wedi'i seilio ar egwyddor mynediad am ddim i bawb, a gyflwynwyd gennym ni ym mis Ebrill 2001, a dyma'r amgueddfa genedlaethol gyntaf i gael ei chynllunio gyda hyn mewn golwg. Dyma amgueddfa sy'n uno'r gorffennol a'r dyfodol. Bydd cyfraniad y gorffennol i flaengaredd diwydiant a'r môr yn ysbrydoli cenedlaethau o ddynion a merched Cymreig i ddatblygu syniadau, technoleg a busnesau newydd.”

Cafodd y project grant o £11 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – y grant mwyaf erioed yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhyddhau hyd at £6m o gymorth ariannol, yn ogystal â gwneud cyfraniadau mawr trwy'r WDA a Bwrdd Croeso Cymru. Mae'r cymorth yma wedi helpu i ddenu cyllid pellach trwy raglen Amcan Un Ewrop. Mae Liz Forgan, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi bod yn dilyn y project yn eiddgar:

"Mae hanes diwydiannol a morwrol Cymru'n rhan annatod o'i gorffennol. Dyna pam fod CDL wedi rhoi £11 miliwn, ei grant mwyaf erioed yng Nghymru, i ddod â'r stori hynod yma'n fyw. Mae llawer o'r casgliadau gwych yma, sy'n cael eu harddangos am y tro cyntaf, yn gadael i ymwelwyr o Gymru a'r tu hwnt ddysgu am hanes cenedl ddiwydiannol gynta'r byd. Mae'r hwb yma o arian y loteri wedi creu cyfleuster o safon fyd-eang ar gyfer Abertawe, gan roi'r ddinas yn gadarn ar y map diwylliannol a chan weithredu fel catalydd i barhau â datblygiad yr ardal trwy dwristiaeth a swyddi.”

Mae Llywydd AOCC, Paul Loveluck, wrth ei fodd bod yr amgueddfa newydd yn agor:

“Mae hi'n ddiwrnod mawr i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Heddiw mae ffrwyth blynyddoedd mawr o waith rhagorol gydag amrywiaeth o bartneriaid ym mhob sector yng Nghymru a'r tu hwnt, ac yn arbennig Dinas a Sir Abertawe, yn blaguro. Mae treftadaeth ddiwydiannol Cymru'n rhan annatod o'n hanes, ac rydw i wrth fy modd fod gennym amgueddfa genedlaethol yma yn Abertawe, wrth galon ein cenedl ddiwydiannol, i adrodd stori diwydiant a blaengaredd o safbwynt y bobl.”

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n brofiad hollol newydd i ymwelwyr. Gyda dros 100 o arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n defnyddio'r dechnoleg gyfrifiadurol ddiweddaraf, daw'r amgueddfa â Chymru a'i threftadaeth ddiwydiannol yn fyw i ymwelwyr o bob oedran. Mae dysgu'n hwyl, am fod yr arddangosfeydd rhyngweithiol ddod â phethau'n fyw. Mae'r sgriniau'n ymateb i symudiadau; mae byrddau sy'n defnyddio'r dechnoleg gyffwrdd ddiweddaraf ac mae defnyddiau newydd trawiadol o'r ‘hen' dechnoleg, gan ofalu fod yr ymhelwyr yn cael profiad sydd heb ei ail yng Nghymru.

Mae Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, Chris Holley, yn credu bod yr amgueddfa newydd yn hwb fawr i Abertawe:

"Mae hyn yn wych i Abertawe. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn codi proffil ac yn gwella ffyniant Abertawe trwy ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn. Bydd yn helpu i adfywio ein glannau, ac ynghyd â'r Ganolfan Hamdden ar ei newydd wedd, bydd yn creu lle modern a chysylltiad strategol rhwng canol y ddinas a'r môr.”

Bydd Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Llywodraeth Cynulliad Cymru yn agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i'r cyhoedd am 2.00pm.

Dyluniwyd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gan Wilkinson Eyre Architects. Land Design Studio sydd wedi datblygu'r orielau newydd gan gydweithio'n agos â thîm AOCC. Datblygwyd yr arddangosfeydd rhyngweithiol gan Land Design Studio a New Angle.

Mae datblygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn rhan allweddol o strategaeth ddiwydiannol AOCC. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid ariannu eraill, mae £40m wedi cael ei fuddsoddi mewn ardaloedd Amcan Un yng Nghymru i ddathlu ein treftadaeth ddiwylliannol. Roedd y strategaeth yn cwmpasu tair amgueddfa oedd yn bodoli eisoes — yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a'r Pwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon, a enillodd gwobr fawr Gulbenkian eleni — yn ogystal â'r amgueddfa newydd yn Abertawe.

Amgueddfeydd eraill AOCC yw'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd – sy'n dangos Cymru wrth ei Gwaith ar hyn o bryd, sef arddangosfa sy'n edrych ar ddelweddau o'r diwydiannau a greodd y Gymru fodern – Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion.

Mae mynediad i holl amgueddfeydd cenedlaethol Cymru am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Dylid cysylltu â Fay Harris neu Gwenllïan Carr gyda phob cais am gyfweliad (manylion isod).

Cysylltiadau

Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

FAY HARRIS
Swyddog Marchnata a'r Wasg, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
01792 638 970 / 07970 016 761
(Ymholiadau cyn y lansiad ac ymholiadau'r wasg ar y diwrnod)

GWENLLIAN CARR
Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOCC
07974 205 849
(Cynllunio ymlaen ac ymholiadau'r cyfryngau ar y diwrnod)

SIÂN JAMES
Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOG
07970 016 058
(Ymholiadau ffotograffiaeth ar y diwrnod)

Ylva French Consultancy

YLVA FRENCH
020 7233 6789
(Ymholiadau cyn y lansiad yn y DU, y wasg a'r cyfryngau arbenigol rhyngwladol)Equinox PR

Zara Parry
Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus
07796 274 874
(Ymholiadau CDL)

Llywodraeth Cynulliad Cymru

NON JONES
Swyddog y Wasg, Llywodraeth Cynulliad Cymru
029 2089 8683 / 07976 610 368
(Ymholiadau am Lywodraeth Cynulliad Cymru)

Dinas a Sir Abertawe

PATRICK FLETCHER
Pennaeth Newyddion, Cyngor Abertawe
01792 636 092
(Ymholiadau am Ddinas a Sir Abertawe)