Datganiadau i'r Wasg

Arswyd Calan Gaea' a Chyffro'r Celtiaid — Hwyl Hanner Tymor yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion

Hyd yn oed cyn i'r Rhufeiniaid ddod yn agos i Gaerllion, roedd bryngaer llawn Celtiaid ffyrnig a rhyfelgar yn gofalu am y fro. Dewch draw i'r Amgueddfa dros hanner tymor, 24–28 Hydref, i ddysgu rhagor am y bobl yma.

Gwisgwch i fyny fel Celt, neu gwnewch fodel o dŷ crwn. Cewch ymarfer taflu'r waywffon (at filwr Rhufeinig wrth gwrs!) neu wneud pot bach neu fwclis yn null y Celtiaid.

A bydd mwy o gythrwfl Celtaidd nos Lun, 31 Hydref wrth i'r Amgueddfa ddathlu Calan Gaea' gyda pharti rhwng 6–8pm. Ond rhybudd bach i chi'r gwrachod a'r swynwyr bach — bydd arswyd yn yr awyr ar y noson! Rhowch gynnig ar Helfa Drysor y Rhufeiniaid Marw, gwrandewch ar straeon, neu gwnewch Olwyn Flwyddyn Geltaidd. Ac i gloi'r noson, bydd cystadleuaeth gwisg ffansi yn Oriel yr amgueddfa.

“Mae'r Parti Calan Gaea'n llawer o hwyl,” meddai Bethan Lewis, Rheolwraig yr Amgueddfa, “Mae'n hyfryd gweld yr holl blant yn eu gwisgoedd yn chwarae'r gemau; ac mae'n ffordd dda i'r plant lleol ddathlu'r achlysur yn ddiogel.”

Bydd Wythnos Geltaidd yn rhedeg rhwng 24–28 Hydref, 11am–4pm bob dydd a'r pris fydd £1 y plentyn. Cynhelir y parti Calan Gaea' nod Lun, 31 Hydref rhwng 6-8pm, a phris y tocynnau fydd £2 i bob oedolyn a £1 y plentyn. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw. Mae'r tocynnau ar gael o'r Amgueddfa neu ffoniwch 01633 423134 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn un o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC). Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr fawr Gulbenkian eleni — yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Yn ogystal, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd agor yn Abertawe gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru.

Mae mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Victoria Hutchings, Swyddog Digwyddiadau a Marchnata, Amgueddfa'r Lleng Rufeinig, Caerllion. Ffôn: 01633 423134 E-bost: victoria.hutchings@amgueddfacymru.ac.uk