Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiadau Hanner Tymor a Nos Galan Gaeaf

Os ydych chi'n chwilio am weithgareddau Hanner Tymor a Nos Galan Gaeaf i gadw'r plant yn brysur yn ystod yr wythnos nesaf, yna Amgueddfa Lechi Cymru yw'r lle i chi.

Rydym wedi trefnu gweithgareddau Nos Galan Gaeaf ar gyfer Hydref 24ain i'r 28ain a Hydref 30ain. O Hydref 24ain tan Hydref 28ain gall plant a'u teuluoedd wneud crefftau iasoer, gan gynnwys llusernau a phryfed cop yng ngweithdai crefft poblogaidd yr Amgueddfa, a gynhelir o 11am tan 1pm, a 2pm tan 4pm. Ar Hydref 30ain , o 1pm tan 4pm, cynhelir rhagor o weithdai crefft yn ogystal â sesiynau peintio wynebau, a bydd cyfle i gwrdd â rhai o'r tylluanod o Ymddiriedolaeth Adar Gogledd Cymru.

Hefyd, ar Ddydd Llun a Dydd Mawrth, Hydref 24ain a'r 25ain, gall pawb sy'n ymweld â'r amgueddfa gymryd rhan yn nigwyddiad y DARLUN MAWR. Mae adeiladau a chasgliadau'r Amgueddfa wedi ysbrydoli nifer fawr o arlunwyr dros y blynyddoedd, ac yn awr mae'r Amgueddfa'n gwahodd egin arlunwyr i dynnu llun eu hoff rannau o'r Amgueddfa. Bydd Dyfrig Peris, yr arlunydd preswyl, wrth law i gynnig cymorth a chyngor, a darperir yr holl ddeunyddiau ar eich cyfer.

Yn ogystal, ar Hydref 24ain a'r 25ain, bydd yr awdur Jean Mead yn ymweld â'r amgueddfa i lofnodi copïau o'i llyfr newydd, The Widow Makers, sydd wedi'i leoli yn ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru yn y 19eg Ganrif.

“Mae wythnos hanner tymor yn gyfnod prysur iawn i ni bob amser, a gobeithiwn y bydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn ychwanegu mwy fyth at fwynhad ymwelwyr' meddai Julie Williams, Y Swyddog Marchnata.

Mae mynediad i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn DDI-DÂL, oherwydd cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r holl ddigwyddiadau hefyd yn DDI-DÂL, ond bydd cost o £1 am fynychu'r gweithdai crefft. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Amgueddfa ar 01286 870630 neu anfonwch e-bost at slate@amgueddfacymru.ac.uk