Datganiadau i'r Wasg

Adroddiad Blynyddol AOCC yn Edrych tua'r Dyfodol

Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) wedi cyhoeddi'i adroddiad blynyddol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2004 – 31 Mawrth 2005.

Bu'n flwyddyn lwyddiannus i AOCC, gyda'r Pwll Mawr yn ennill Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn. Bu'r gwaith ar gwblhau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn mynd rhagddo drwy gydol y flwyddyn, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r amgueddfa wedi'i hagor.

Daeth dros 1.3 miliwn o ymwelwyr i'r amgueddfeydd yn ystod 2004/05, ac mae'r polisi mynediad am ddim, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn parhau i fod yn llwyddiant mawr.

Edrych tua'r Dyfodol yw teitl yr adroddiad eleni, ac yn ddi-os dyma fu AOCC yn ei wneud yn ystod y flwyddyn, gan ymgynghori'n eang ar gynlluniau a fydd yn trawsnewid ein hamgueddfeydd cenedlaethol yn y dyfodol, ac meddai'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Michael Houlihan:

“Bu 2004-05 yn gyfle i ni fod yn ystyried cyfeiriad yr Amgueddfa am y blynyddoedd nesaf. Bu'n flwyddyn o drafod yn fewnol, gyda'r cyhoedd a chyda'n partneriaid amrywiol, er mwyn i ni sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gweddu â dyheadau pobl Cymru ar gyfer amgueddfa genedlaethol. Bydd ffrwyth y trafodaethau yma yn dechrau ymddangos dros y flwyddyn nesaf.”

O fis Tachwedd ymlaen, bydd AOCC yn newid ei enw i Amgueddfa Cymru. Bydd rhai o'r amgueddfeydd dan ei ofal hefyd yn newid eu henwau. O hyn ymlaen, dyma fydd enwau swyddogol yr amgueddfeydd cenedlaethol: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae copïau o Adroddiad Blynyddol AOCC ar gael drwy gysylltu ag unrhyw un o'r amgueddfeydd.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, AOCC
Ffôn: (029) 2057 3175 / (07974) 205 849