Datganiadau i'r Wasg

Hwyl hanner tymor

Os ydy teithio nol mewn amser yn apelio atoch, yna dewch i ymweld ag Oriel Ddarganfod Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod mis Tachwedd.

5, 6, 12 a 13 Tachwedd – Hela a Chasglu. Beth oedd pobl cynhanesyddol yn ei fwyta?

19 Tachwedd – Sesiwn Gwnewch Rhywbeth Gwahanol: Archaeoleg cynhanesyddol. Dewch i grwydro yn yr orielau archaeoleg i ddarganfod yr hanes y tu ôl i'r gwrthrychau.

20, 26 a 27 Tachwedd – Offer cynhanesyddol. Dewch i weld a thrin hen offer fyddai'n cael ei defnyddio cyn hanes.

Meddai Gareth Bonello, Dehonglydd BBG, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

‘Yn ystod mis Tachwedd mi fydd Oriel Glanely yn teithio nol mewn amser i edrych ar Gymru yn yr oes cynhanesyddol. Sut oedd y bobl yn medru byw mewn cynefin mor oes a oedd yn llawn anifeiliaid gwyllt? Beth oeddent yn bwyta? Dysgwch sut i wneud gemwaith allan o gopr, a sut i hidlo am aur. Gwnewch bloc printio wedi ei hysbrydoli gan hen straeon a chwedlau a darganfyddwch sut oedd ein hynafiad yn byw'.

Mae'r oriel hon yn fodd i chi gyffwrdd ac astudio nifer o'n gwrthrychau, a gyda chymorth yr arbennigwyr, adnabod eich casgliadau eich hun. Neu os ydych am wybod mwy am y darganfyddiadau diweddaraf ym myd celf neu archaeoleg, mae gan Oriel Glanely gasgliad helaeth o wybodaeth i'ch cynorthwyo. Mae llond y lle o adnoddau cyfoes.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa a weithredir gan Amgueddfa Cymru. Y safleoedd eraill Amgueddfa Cymru yw Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon — enillydd Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cyrmu, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch:
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
029 2057 3185 / 07970 016058
sian.james@amgueddfacymru.ac.uk