Datganiadau i'r Wasg

Gwobrau addysg yn Big Pit

Bydd Big Pit yn croesawu cynrychiolwyr o chwech amgueddfa fydd yn derbyn Gwobr Sandford am Addysg Treftadaeth ar 22 Tachwedd, ac yn casglu un ei hun.

Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru — un o deulu Amgueddfa Cymru — wedi ennill gwobr am ei rhaglen addysg ragorol ar sail profiad, sy’n cynnwys mynd ag ymwelwyr 300tr o dan y ddaear i weld sut mae pwll glo go iawn yn gweithio, yng nghwmni cyn-lowyr go iawn sy’n adrodd eu straeon eu hunain am weithio danddaear.

Mae arddangosfeydd Amgueddfaol a phrofiadau rhyngweithiol o gwmpas gweddill Big Pit yn ategu’r profiad, gan gynnwys efelychiad aml-gyfrwng hollol fodern o fywyd danddaear lle gall ymwelwyr ddysgu am ddulliau modern o godi glo.

Mae Big Pit, enillydd Gwobr Gulbenkian eleni am Amgueddfa Orau Prydain, yn adrodd stori’r cymunedau glofaol hefyd, gan ganolbwyntio mewn mannau ar fenywod a phlant, ac effaith y diwydiant glo ar eu bywydau nhw.

Yn 2004, gweithiodd y Pwll Mawr gydag Awdurdod Addysg Lleol Casnewydd i ddatblygu ‘Plant y Chwyldro’, adnodd i’r we sy’n rhoi syniad o amodau bywyd a gwaith ym Mlaenafon yn ystod y 19eg ganrif, sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr BECTa am ddefnyddio TGCh mewn Addysg.

Wrth longyfarch Big Pit ar ei lwyddiant, dywedodd

"Mae’r wobr yma’n gamp fawr arall i Big Pit. Mae’n cydnabod rôl yr amgueddfa wrth ddysgu pobl am bwysigrwydd y diwydiant glo yng Nghymru. Fel mab i löwr, mae gen i ddiddordeb arbennig yn Big Pit, felly rwy’n falch iawn o’r ffaith fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gallu cefnogi’r darn gwerthfawr yma o’n treftadaeth ddiwylliannol.”

Caiff y Wobr, a gyflwynwyd am gyfnod o bum mlynedd, ei chyflwyno gan David Lammy AS, Gweinidog Diwylliant Prydain. Bydd Alun Pugh AC, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, yn bresennol hefyd.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i’r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

-Diwedd-

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am Big Pit yn ennill gwobr Sandford, cysylltwch â :

Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata Big Pit.

Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210 kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Addysg Treftadaeth gan Arglwydd Sandford ym 1983 i godi proffil defnydd addysgol o safleoedd hanesyddol. Nid cystadleuaeth mo’r wobr, ond mae’n dathlu ansawdd a rhagoriaeth mewn gwasanaethau addysg ar safleoedd hanesyddol. Caiff yr ymgeiswyr eu hasesu gan banel o feirniaid annibynnol o bob maeth o feysydd addysg proffesiynol gan gynnwys arolygwyr OFSTED a hen Brifathrawon.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan ddefnyddio meini prawf a bennir gan yr Ymddiriedolaeth. Mae’r rhain yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a chadw at ofynion y Cwricwla Cenedlaethol; i ba raddau mae potensial addysgol y safle’n cael ei ddatblygu, a sut mae’r safle’n codi ymwybyddiaeth am ddeall treftadaeth leol a chenedlaethol.

Mae Big Pit ar agor trwy gydol Rhagfyr ac Ionawr, ac eithrio 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr.
Oriau agor tan ddiwedd Tachwedd: 9.30am–5pm. Teithiau cyson danddaear 10am–3.30pm.
O 1 Rhagfyr: 9.30am–4.30pm. Teithiau cyson danddaear 10am–3pm.
Dim teithiau danddaear yn ystod mis Ionawr.