Datganiadau i'r Wasg

Y Gasgliad Serameg Cenedlaethol ar ei Newydd Wedd

Heno (28 Tachwedd), bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu ail-arddangos y casgliad serameg cenedlaethol.

Mae'r casgliad serameg hynod i'w weld mewn cyfres o gesys gwydr newydd a ariannwyd gan grant o £180,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon yn mynychu'r digwyddiad, a meddai:

"Mae casgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol yn rhan bwysig o'n treftadaeth genedlaethol. Rwy'n falch bod cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu i dalu am gyfleusterau arddangos newydd fel bod y darnau'n cael eu cadw yn y cyflwr gorau posibl er budd yr ymwelwyr.”

Daw llawer o'r gwaith serameg ar arddangos o gasgliad de Winton. Bu Wilfred de Winton, bancwr o Aberhonddu, yn casglu porslen ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Bu'n mapio esblygiad siapiau a motiffau addurnol wrth i'r arfer o wneud porslen ledaenu ar draws Ewrop o un ffatri i'r llall. Rhoddwyd rhan heleath o'r casgliad i'r Amgueddfa Genedlaethol yn 1917, a gadawodd y gweddill yn ei ewyllys yn 1929.

Wrth drafod pwysigrwydd y casgliad serameg, dywedodd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Michael Tooby:

“Mae'r casgliadau serameg yn amrywiol dros ben ac o'r ansawdd uchaf. Rhodd Wilfred de Winton o gasgliad ardderchog o 3,000 o ddarnau porslen hanesyddol osododd y safon yn ystod degawdau cyntaf yr amgueddfa. Mae'r casgliad wedi parhau i ddatblygu hyd heddiw, ac o ganlyniad mae'n cynnwys rhai o wneuthurwyr amlycaf y cyfnod modern. Mae darnau serameg newydd gan artistiaid o Gymru a'r tu hwnt yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd.

“Mae'r arddangosfeydd serameg yn dangos rhai o syniadau mwyaf ystyriol ac ymatebol rhaglenni'r amgueddfa, boed wrth gyfosod gweithiau hen a newydd, neu ar ffurf arddangosfeydd wedi'u curadu gan y gymuned ar led trwy'r rhaglen ‘Dewiswch Chi!'.

“Hyd yn hyn, cesys sy'n dyddio o adeiladau gwreiddiol yr amgueddfa sydd wedi dangos y casgliad anhygoel yma. Dros y chwe mis diwethaf, mae cyfres o gesys arddangos cain wedi cymryd eu lle. Yn ogystal â gadael i'r casgliadau edrych yn ffres a disglair, mae'r cesys newydd yma'n hyblyg, sy'n golygu bod modd adnewyddu'r arddangosfeydd yn rheolaidd ac ychwanegu atynt.”

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru
029 2057 3175 / 07974 205 849
gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk