Datganiadau i'r Wasg

Profiad Big Pit yn fwy eto

Bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru – enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau Prydain – ar agor drwy gydol y gaeaf eleni am y tro cyntaf yn ei hanes 23 mlynedd fel amgueddfa ac atyniad, ar ôl blwyddyn lwyddiannus dros ben arall.

Fel un o deulu Amgueddfa Cymru, mae Big Pit ym Mlaenafon wedi mwynhau blwyddyn arall sydd wedi torri pob record, ac mae Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll, yn awyddus i ymwelwyr gael blas ar y gwaith cynnal-a-chadw sy'n cael ei wneud y tu ôl i'r llenni. Meddai:

“Yn y gorffennol, mae Big Pit wedi cau am ryw ddeg wythnos dros y gaeaf er mwyn gwneud gwaith cynnal-a-chadw dan y ddaear ac ar y wyneb, ond eleni caiff yr ymwelwyr gyfle i weld y gwaith cynnal-a-chadw ar waith, am mai dim ond am bedwar diwrnod dros yr ŵyl y bydd yr amgueddfa ar gau.

“Er na fydd y daith danddaear ar gael ym mis Ionawr, bydd cyfle i'r cyhoedd fynd ar daith y tu ôl i'r llenni i weld y staff cynnal-a-chadw medrus yn gwneud gwaith sy'n hanfodol i gadw teithiau danddaear Big Pit yn rhedeg gweddill y flwyddyn.”

Ychwanegodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Mae Big Pit yn atyniad pwysig i dwristiaid yn yr ardal yma, felly rwy�n falch y bydd y lle ar agor trwy�r gaeaf er mwyn i fwy byth o bobl gael dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol falch Cymru."

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata Big Pit.
Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210 kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk

Mae Big Pit ar agor trwy gydol Rhagfyr ac Ionawr, ac eithrio 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr.

Oriau agor tan ddiwedd Tachwedd: 9.30am–5pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3.30pm.
O 1 Rhagfyr: 9.30am–4.30pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3pm.
Dim teithiau danddaear yn ystod mis Ionawr.