Datganiadau i'r Wasg

Cyngor Amgueddfa Cymru yn Llundain

Bydd Cyngor Amgueddfa Cymru yn cyfarfod yn yr Imperial War Museum yn Llundain, ddydd Iau, 8 Rhagfyr.

Meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru:

“Mae'n bwysig ein bod ni'n adeiladau cysylltiadau gyda chynifer o sefydliadau tebyg â phosibl, yn enwedig dros y flwyddyn nesaf wrth i ni agosáu at ein canmlwyddiant yn 2007. Bwriad ein taith i Lundain yw rhoi cyfle i ni ymweld â nifer o amgueddfeydd ac orielau, nid yn unig er mwyn datblygu perthynas ond hefyd er mwyn rhoi cyfle i ni astudio arfer da mewn sefydliadau eraill.

“Mae'r daith arbennig hon wedi bod yn gyfle i ni hefyd drefnu derbyniad arbennig ar gyfer rhai o'n cefnogwyr sy'n byw a gweithio y tu allan i Gymru, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â mudiadau fel Cymry Llundain a'r Cymmrodorion. Dyma un o'r digwyddiadau cyntaf rydym wedi'u trefnu sy'n tynnu sylw at ein canmlwyddiant ymhen y flwyddyn, a bydd llawer mwy o ddigwyddiadau tebyg yn dilyn dros y misoedd nesaf, ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.”

Mae Cyngor Amgueddfa Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Mae'r cyfarfodydd hyn ar agor i'r cyhoedd. Am restr llawn o ddyddiadau'r cyfarfodydd dros y flwyddyn nesaf, cysylltwch â swyddfa'r wasg.

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r datganiad hwn, cysylltwch â Robin Gwyn ar 07810 657172