Datganiadau i'r Wasg

Hud a Lledrith yn yr Amgueddfa Genedlaehtol

O flaen eich llygaid — Hud a Lledrith Oes Victoria fydd thema sioe a darlith arbennig y Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ar 14 Rhagfyr, bydd Edwin Davies, hanesydd y Cylch Hud ac athro Emeritws Biocemeg Prifysgol Hull, yn siarad am 5 swynwr gorau Oes Victoria a'u rhan bwysig nhw wrth wneud hud a lledrith yn boblogaidd. Bydd perfformiad hud gan Alex Shaxon, Llywydd y Cylch Hud yn dilyn y ddarlith.

Yr arddangosfa Breuddwydion Oes Victoria sy'n gyfrifol am thema'r sioe a'r ddarlith eleni. Mae'r arddangosfa hardd yma yn edrych ar beintiadau a gweithiau ar bapur o gasgliadau'r Amgueddfa, ac mae' i'w gweld tan 8 Ionawr 2006.

Os taw hwyl ar gyfer y teulu cyfan sy'n apelio, dewch i fod yn rhan o lu o weithgareddau o Oes Victoria ar 17 Rhagfyr. Bydd straeon, ystumwyr, acrobatiaid, llusernau hud, peintio wynebau a llawer iawn mwy.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch:
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
029 2057 3185 / 07970 016058
sian.james@amgueddfacymru.ac.uk