Datganiadau i'r Wasg

Kennixton — Y Ffermdy Coch yn dathlu hanner canrif o fod yn Sain Ffagan

Teulu yn dychwelyd i'w cartref

Eisteddai yn y dyffryn rhwng coed tal Criafol ac Ynn, ei du allan adfeiliog yn wyn a cherrig crynion y buarth yn brysur gyda stablau, cytiau i'r lloi ac ysguboriau. Bu ffermdy Kennixton yn eiddo i'r teulu Rogers o Langynydd ers dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ond yn 1951 rhoddodd Mr J B Rogers y cartref ysblennydd hwn i'r amgueddfa newydd a chwyldroadol oedd wedi agor yn Sain Ffagan. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae miliynau o ymwelwyr wedi cerdded drwy'r tŷ ac mae ei waliau gwaedgoch gyfystyr â Sain Ffagan. Bydd 3 cenhedlaeth o deulu y Rogers yn dychwelyd i Kennixton, eu cartref ysbrydol ar 15 Rhagfyr, efallai hoff dy y Cymry erbyn heddiw.

Gydag arian o Ŵyl Prydain 1951 cofnodwyd y ffermdy yn ofalus; gosodwyd rhifau ar y prif gerrig; datgymalwyd yr adeilad a'i symud i'w gartref newydd yn yr amgueddfa. Diolch i ymchwil hynod o fanwl a chrefftwaith arbenigol adferwyd Kennixton i'w ysblander cynt gyda'i do gwellt coch cywrain trawiadol a'r larwm rhag lladron ar ffurf y lloc gwyddau. Ond er i'r adeilad gael ei symud ymhell o'i gartref gwreiddiol yn y GŴyr, mae'r ysbryd a'r atgofion yn dal yn eiddo i Glyn Rogers a'i deulu. Bu Mr Glyn Rogers yn byw yn y ffermdy pan yn ifanc a bydd yn dychwelyd gyda'i deulu i'r adeilad yn Sain Ffagan ar gyfer y dathliad arbennig hwn.

Ond beth sy'n gwneud Kennixton yn adeilad mor arbennig? Rhaid bod rhan o'r ateb yn gorwedd yn ei liw; coch dwfn, yn wreiddiol yn gymysgedd o waed ychen a chalch ac yn fodd, credai rhai, i gadw gwrachod draw. Erbyn hyn mae Calch Tŷ Mawr o ardal Aberhonddu yn cynnig pigment llai gwaedlyd ei liw i'r amgueddfa ac mae ‘Coch Kennixton' yn gwerthu'n well nag unrhyw liw arall. Mae'r aeron ar y goeden griafol a'r ffurfiau cerfiedig, i'w gweld y tu mewn i'r drws, hefyd yn fodd i gadw ysbrydion drwg draw. Y tu allan i'r drws blaen mae adeilad bach carreg, sydd yn ddigon mawr i ddal gwydd. Roedd yr wydd hon yn rhybuddio'r trigolion bod ymwelwyr yn agoshau.

Yn y ty gellir gweld gwely-bocs Gŵyr hardd o bren, dodrefn cyhenid bendigedig o Sir Forgannwg a pharlwr gyda stensilau hyfryd a thectiliau lliwgar; llaethdy gwledig syml a llawr o wnaed o glai, cregyn a cherrig wedi malu o rysait o'r 18fed ganrif.

Mae'r gwellt pleth ar y nenwfd hefyd yn drawiadol ac yn hynod o brin. Llwyddwyd i gadw rhannau o fatin gwreddiol y tu mewn yn yr 1950au a thrwy astudio'r bwndeli cymhleth hyn o wellt yr aeth y crefftwyr ati i ddarganfod sut y caswant eu gwneud yn y lle cyntaf. Credir nad yw'r un töwr heddiw yn defnyddio'r dechneg hon nac yn gwybod sut i'w defnyddio. O amglych Kennixton a'r ardd gellir gweld amlinelliad tai allanol y ffermdy ac yn y dyfodol mae Mr Rogers a'i deulu am roi'r adeiladau hyn hefyd i'w hailgodi yn Sain Ffagan.

Mae Gerallt Nash, Ceidwad yr Adeiladau Hanesyddol, wrth ei fodd o gael cyfle i groesawu'r teulu Rogers i'r dathliad arbennig hwn . ‘Bydd yn ddiwrnod i'w gofio pan fydd y teulu Rogers yn dychwelyd i Kennixton. Dros y degawdau mae eu gwybodaeth leol a'u hymchwil teuluol wedi bod o werth amhrisiadwy i'r Amgueddfa.'

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir myndiad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch I gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.