Datganiadau i'r Wasg

Siôn Corn a Gwyddonydd Gwyllt

BETH sydd gan Siôn Corn a'r gwyddonydd gwyllt Dr Mark Lewney yn gyffredin? – bydd y ddau'n ymddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'r wythnos yma.

A bydd digonedd o hwyl yr Ŵyl i bawb yma wrth i'r Nadolig agosáu.

Agorodd yr Amgueddfa ar 17 Hydref, ac mae hi eisoes wedi denu dros 43,000 o ymwelwyr. Bydd ei Nadolig cyntaf yn achlysur i bawb i ddathlu gyda chymysgedd llawn hud o'r hen a'r newydd.

Yn ôl y traddodiad, bydd Siôn Corn yn galw draw i ŵyl y Gaeaf ddydd Gwener rhwng 5.30pm a 8.30pm. A bydd llond y lle o hwyl a dathlu!

Ddydd Sul, 11 Rhagfyr am 1.30pm, darganfyddwch y stori ddifyr y tu ôl i'r Ŵyl Iddewig Hanukkah mewn sesiwn llawn hwyl i'r teulu. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly bwciwch wrth gyrraedd.

Am 2.30pm ddydd Sul, bwciwch eich lle yn ein darlith Nadolig gydag enillydd Famelab, Dr Mark Lewney. Mae gwylwyr ei raglen boblogaidd ar y BBC a CBBC wedi disgrifio Mark fel cymysgedd rhwng Einstein â Jimmy Hendrix. Bydd e'n mynd â chi ar daith drydanol 40 munud o hyd o gwmpas ffiseg y gitâr roc!

Mae Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris wrth ei fodd ar ymateb y cyhoedd hyd yn hyn:

“Y peth mwyaf calonogol yw bod pobl yn sylweddoli bod yna ddigonedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n digwydd yma i ategu arddangosfeydd craidd cyffrous yr amgueddfa, ac mae hynny'n cynnwys cyfnod y Nadolig. “Mae cymysgedd o'r hen a'r newydd yma a ddylai apelio at bawb.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Fay Harris, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata (01792) 638970