Datganiadau i'r Wasg

Radio STAR

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Tan 15 Ionawr 2006

Mae arddangosfa o waith ac archifau sain Radio STAR, wedi agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Project darlledu rhyngweithiol, cymunedol a chydweithredol yw hwn a grëwyd gan Jennie Savage, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd, ynghyd ag artistiaid a thrigolion y Sblot, Tremorfa, Adamstown a’r Rhath (STAR). Bydd yr arddangosfa’n para tan 15 Ionawr 2006.

Bu Radio STAR yn darlledu o siop yn Clifton Street, Sblot rhwng 22 a 29 Hydref. Ffrwyth chwe mis o waith paratoi oedd hyn. Cafodd pobl leol wahoddiad i gyfrannu at y gwaith o greu a chynhyrchu rhaglenni radio, fel Cardiff Royal Infirmary lle daeth merched o’r ward i siarad am eu hatgofion am y Clafdy Brenhinol a’r GIG, a The Opening Up of Cardiff oedd yn cynnwys cyfres o gyfweliadau gan Felicia Owusu-Fofie, sy’n enedigol o Ghana, gyda phobl Affricanaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Trefnodd y project i blant hefyd sef ‘STAR Radio Kids Club’ lle cydweithiodd y plant i greu drama radio, a gweithdai ysgrifennu.

Cafodd dros 20 o artistiaid eu comisiynu i greu rhaglenni mewn ymateb i’w bro. Roedd ‘A Psychic Investigation’ a gynhyrchwyd gan Sara Fletcher ar y cyd â Jane McCarthy, cyfyngwraig o Gaerdydd, yn archwiliad paranormal i sut gallai ysbrydion ac olion gorffennol cymuned STAR barhau i ddylanwadu ar yr ardal. Cyfres o sioeau radio pum munud a grëwyd mewn trafodaeth â’r trigolion ar strydoedd STAR yw ‘This is not a Radio Club’ gan Ella Gibbs. Sbardunodd rhaglen Anya Lewin a Mike Lawson Smith ‘STEEL’ ddialog rhwng cyn-weithwyr dur a phobl sy’n dal i weithio yn y diwydiant yn Pittsburgh (UDA) a Chaerdydd.

Meddai’r artist, Jennie Savage:

“Fel casgliad o ddeunydd, mae’r rhaglenni hyn yn mynegi teimladau a syniadau pobl yn yr ardal. Mewn ffordd, mae’r project wedi gwahodd pobl i ysgrifennu eu hanes eu hunain. Yn y dyfodol, bydd y deunydd yn rhywbeth i droi ato, yn ddarlun unigryw o le wedi ei beintio gan y bobl sy’n byw yno, proses sy’n gwyrdroi’n fwriadol y prosesau hierarchaidd sy’n gysylltiedig â chreu hanes.”

Comisiynwyd Radio STAR gan CBAT, Asiantaeth y Celfyddydau ac Adfywio. Ymgynghoraeth celf gyhoeddus annibynnol sy’n gweithio yng Nghaerdydd yw CBAT. Mae’n gweithio gydag artistiaid, penseiri, trigolion, cymunedau, awdurdodau cyhoeddus a’r sector preifat mewn cynlluniau i adfywio trefol. Meddai Cyfarwyddwr CBAT, Wiard Stark,

“Rydyn ni wrth ei bodd i gomisiynu a gweithio gyda Jennie ar y project yma. Mae Radio STAR wrth galon rhaglen gomisiynu CBAT. Mae’n ymateb yn arbennig i bryderon CBAT wrth integreiddio celf i adfywiad cymunedau preswyl ôl-ddiwydiannol ledled Cymru a Phrydain.”

Ar ôl yr arddangosfa, caiff deunydd Radio STAR ei gadw yn yr archif sain yn Sain Ffagan. Caiff ei gadw hefyd ar-lein yn www.starradio.org.uk

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Julie Richards, Swyddog y Wasg
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ffôn poced: 07876 476695
E-bost: