Datganiadau i'r Wasg

Cyfle Olaf i Weld Dwy Arddangosfa yng Nghaerdydd

Ychydig wythnosau yn unig sydd ar ôl i ymweld â dwy arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd Cymru wrth ei Gwaith a Breuddwydion Oes Victoria: Casgliadau Celf y 19eg ganrif yng Nghymru yn cau ar 8 Ionawr.

Crëwyd yr arddangosfa Cymru wrth ei Gwaith i ddathlu agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, sy’n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn rhan o deulu Amgueddfa Cymru a bu’r arddangosfa yn ffordd ardderchog o dynnu sylw at y cysylltiad hwn.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys peintiadau olew a lluniau dyfrlliw gan artistiaid fel Thomas Hornor, Paul Sandby, Ceri Richards, Josef Herman a L.S. Lowry sy’n dangos diwydiannau mawr Cymru ers y Chwyldro Diwydiannol, gan gynnwys lluniau o’r diwydiant glo, llechi, metel, llongau a chludiant. Mae’r cyfuniad o gelf a diwydiant yn creu cyfle i edrych ar luniau a phaentiadau adnabyddus o safbwynt diwydiant, sydd ynddo’i hun yn ddiddorol iawn.

Arddangosfa wahanol iawn yw Breuddwydion Oes Victoria: Casgliadau Celf y 19eg ganrif yng Nghymru, sy’n dod â gweithiau celf rhagorol Oes Victoria o gasgliadau preifat a’r casgliad cenedlaethol at ei gilydd. Dyma’r tro cyntaf i lawer o’r lluniau gael eu harddangos. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau Cyn-Raffaelaidd gan Holman Hunt, Millais, Rossetti a Burne-Jones; peintiadau neo-Glasurol gan Leighton, Moore ac Alma Tadema a thirluniau gan Brett, Watts ac Inchbold.

Bydd yr arddangosfa o waith artistiaid ar restr fer Artes Mundi, Gwobr Gelf Weledol Ryngwladol Cymru, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 11 Chwefror 2006.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau ar 24-26 Rhagfyr a 1-2 Ionawr 2006.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy’n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru
Ffôn: 029 2057 3175 / 07974 205 849
E-bost: gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk