Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru yn Ennill Gwobr Bwysig
Dyddiad:
2006-01-16Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru wedi llwyddo yng ngwobrau BECTA (British Educational Communications Agency) ym maes TGCH, am eu gwaith mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae'r adnoddau ar-lein, a gynhyrchwyd drwy rwydwaith datblygu proffesiynol, ac a ran-ariannwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, eisoes yn llwyddiant mawr yn yr amgueddfeydd yn ne ddwyrain Cymru, ac fe fyddan nhw'n cael eu cynnig i ddefnyddwyr ym mhob rhan o Brydain o hyn ymlaen.
Gweithiodd y ddwy amgueddfa – sy'n rhan o deulu Amgueddfa Cymru – ar y cyd â'r awdurdod lleol, a dyma'r unig ddau enillydd o Gymru yn y gwobrau eleni.
Enillodd Big Pit y wobr am eu hadnodd ar-lein, Plant y Chwyldro, sy'n astudiaeth hanesyddol o fywyd gwaith ym Mlaenafon yn ystod y 19eg ganrif. Mae'n galluogi plant i edrych ar sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod diwydiannol cynnar, gan ddefnyddio fideo, ymarferiadau modelu, a mapio rhwydweithiol. Wrth groesawu'r wobr, dywedodd Peter Walker, Rheolwr a Cheidwad Big Pit:
“Rydym yn hynod falch bod ein gwaith addysg a'r hyn a wnaethpwyd gyda Chyngor Casnewydd wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr bwysig hon. Buom yn ddigon ffodus i dderbyn Gwobr Sandford am ein gwaith addysg ym maes treftadaeth ym mis Tachwedd, ac mae gwobr BECTA yn cadarnhau y gwaith ardderchog rydym yn ei wneud ym maes addysg.
“Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig i Big Pit. Cawsom bron i 157,000 o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn, a bu ein llwyddiant wrth ennill Gwobr Gulbenkian am amgueddfa orau Prydain yn hwb aruthrol i ni yn ystod 2005,” ychwanegodd,
Bu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, hefyd yn llwyddiannus gyda'i gwefan rhyngweithiol, Her Caerllion, sy'n gyfle i blant ddysgu am fywyd yng Nghaerllion yn ystod amser y Rhufeiniaid. Meddai'r Rheolwr, Bethan Lewis:
“Mae Her Caerllion wedi bod yn adnodd poblogaidd iawn, ac rydym yn falch iawn i gael ein cydnabod gan BECTA. Mae'r gallu i gynnig adnodd ar-lein rhyngweithiol o safon yn hollbwysig, ac mae'r gwaith gyda Chyngor Casnewydd a CADW wedi ein galluogi i grau adnodd gwych ar gyfer disgyblion ac athrawon.”
Croesawyd llwyddiant Amgueddfa Cymru gan Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Meddai:
“Mae rhaglen addysg gynhwysfawr yn rhan annatod o'r hyn y gall amgueddfa ei gynnig i helpu ymwelwyr i wneud y gorau o'u hymweliad. Mae'r wobr yma yn gydnabyddiaeth bellach o'r rôl sydd gan yr amgueddfa i'w chwarae yn y gwaith o addysgu pobl am ran bwysig o hanes ein cenedl.”
Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nodiadau i Olygyddion
Plant y Chwyldro
Mae'r adnoddyn cyffrous hwn yn helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth plant am hanes, ac yn datblygu eu medrau a'u hyder ym meysydd TGCh a Llythrennedd. Mae'r adnoddyn yn cynnwys:
- Cyfoeth o ddeunyddiau o ffynonellau gwreiddiol a fydd ar gael i ysgolion am y tro cyntaf
- Cronfa o adnoddau gan gynnwys delweddau a gwybodaeth ategol
- Taflenni gwaith a gweithgareddau sy'n addas i'w hargraffu a'u hastudio ar-lein
- Amrywiaeth o brofiadau aml-gyfrwng i i gyfoethogi dysgu, gan gynnwys:
Taith rithwir o gwmpas cartref gweithiwr haearn o ganol y 19fed Ganrif
Map rhyngweithiol
Cyfle i fynd yn gwmni i Arolygydd sy'n edrych ar amodau gwaith plant o dan y ddaear
Nifer o fideos arbennig a llawer iawn mwy!!
A: 'Iron Town - Blaenavon and its part in the Industrial Revolution' - fideo sy'n dangos pwysigrwydd Blaenafon wrth ddiwydiannu'r byd i gyd!
Her Caerllion
Dyma adnodd amlgyfrwng cynhyrfus ar gyfer ysgolion. Mae'r adnodd yn canolbwyntio ar Faddonau'r Gaer yng Nghaerllion ac mae wedi'i anelu at blant Blwyddyn 3 fel rhan o'u cwricwlwm hanes. Daw'r adnodd ar ffurf cyflwyniad Microsoft PowerPoint strwythuredig sy'n gofyn i blant i lywio'u ffordd drwy'r tasgau. Mae'r cyflwyniad hefyd yn cysylltu â banc adnoddau amlgyfrwng unigryw a ddarperir gan Amgueddfa Cymru a CADW. Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys darluniau, ffotograffau, golygfeydd rhithwir a gweithgareddau rhyngweithiol llusgo a gollwng.
Yn ogystal â'r banc adnoddau, mae gan bob tasg ei gyswllt i wefannau a llyfrau hanes perthynnol fydd o gymorth i'r plant i gwblhau'r tasgau. Mae'r adnodd yn cefnogi ymweliad â Chaerllion Rufeinig ac mae gan Amgueddfa Cymru nifer o blychau benthyg ar gael i ysgolion sy'n cynnwys ailgreadigaethau o eitemau a ganfyddwyd ym Maddonau'r Gaer.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Gwenllïan Carr – Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 029 2057 3175 / 07974 205 849
gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk
Victoria Le Poidevin – Amgueddfa Lleng Ryfeinig Cymru – 01633 423 134
Victoria.lepoidevin@amgueddfacymru.ac.uk
Kathryn Stowers – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – 01495 790 311
Kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk