Datganiadau i'r Wasg

Ydych chi'n wyddonydd gwych?

Mae'r helfa wedi dechrau i ffeindio wyneb newydd byd gwyddoniaeth, a gallai Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe fod yn lle da i ddechrau.

Mae'r atyniad £33.5 miliwn yn cynnal un o bum rownd ranbarthol cystadleuaeth FameLab, a ddenodd gannoedd o gystadleuwyr y llynedd.

Cystadleuaeth genedlaethol yw FameLab i ffeindio wynebau cyhoeddus newydd byd gwyddoniaeth ym Mhrydain ac mae'n un o fentrau G_yl Wyddoniaeth Cheltenham a NESTA. Mae Channel 4 a The Daily Telegraph ymhlith cefnogwyr y gystadleuaeth.

Dr Mark Lewney o Gaerdydd oedd enillydd y wobr y llynedd diolch i'w gyflwyniad dramatig ar y gitâr roc, ac roedd y ffisegydd Dr Andrew Bebb, sy'n 28 oed ac yn hanu o Abertawe, ymhlith goreuon y gweddill.

Mae Andrew'n byw yn Brighton erbyn hyn ac yn gweithio ym Mhrifysgol Sussex, ond mae ei rieni'n dal i fyw yn Nherforys. Mae'n annog pobl eraill i gymryd rhan yn FameLab 2006.

Dywedodd: “Fe dreuliais i lawer o amser yn gwylio pobl eraill yn trafod gwyddoniaeth, gan feddwl ‘rwy'n si_r gallen i wneud hyn', ond ni chefais i'r cyfle tan FameLab.”

“O ran FameLab ei hun: wel does dim byd tebyg iddo. Roedd yna deimlad o gyfaredd, hygrededd a chyffro, a byddai llawer o bobl yn dweud mai'r tri pheth yna sydd eu hangen ar fyd peirianneg a gwyddoniaeth.”

I gyrraedd FameLab, rhoddodd Andrew ddau gyflwyniad, un ar yr aloi Invar, gan ddefnyddio bal_ns, tegan magned mawr, a cherddoriaeth bop wedi ei golygu'n ofalus, ynghyd â phot o forgrug mawr bwytadwy i esbonio systemau cymhleth.

Os ydych chi am gipio dychymyg pobl sydd heb ddiddordeb ym myd gwyddoniaeth a dilyn yn olion traed David Attenborough a Robert Winston, ewch i www.famelab.org i gael rhagor o fanylion.

I gymryd rhan, byddwch chi'n gweithio ym maes gwyddoniaeth ac yn gallu cyflwyno pwnc gwyddonol o'ch dewis chi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 19 Mawrth. Gallech chi fod ymhlith y cyntaf i weld cyflwynwyr gwyddoniaeth y dyfodol trwy ymuno â'r gynulleidfa. Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 10am tan 5pm.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Un o fentrau Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham Science a NESTA (Gwaddol Cenedlaethol Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau) yw FameLab. Fe'i noddir gan Pfizer, The Daily Telegraph, Cynghorau Ymchwil Prydain a Channel 4.

Pennawd y llun: Cyrhaeddodd Dr Andrew Bebb o Abertawe rownd derfynol FameLab y llynedd.

Cysylltwch â
Fay Harris
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk
01792 638970