Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn Galw ar Weddwon Pêl Droed Ym Mhob Man

Os dyw gwylio grŵp o ddynion yn cicio pêl o gwmpas cae am awr a hanner ddim yn apelio atoch, bydd gennych ddigonedd o amser ar eich dwylo dros y mis nesaf wrth i Gwpan y Byd gychwyn yn yr Almaen yr wythnos hon.

Felly os ydych chi'n cael trafferth i adnabod campau Gerrard ac Owen, a does gennych chi ddim diddordeb mewn esgyrn metatarsol, beth am ddianc o'r cyfan a galw draw i un o saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru?

Mae rhywbeth i bawb yn Amgueddfa Cymru – beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd. Gwlân, dinosoriaid, Rhufeiniaid neu lowyr, mae'r cyfan oll i'w cael yn ein Teulu o amgueddfeydd ardderchog ar hyd a lled Cymru. Ac mae mynediad iddyn nhw i gyd yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i'r casgliad celf cenedlaethol, ac mae'n cynnwys gweithiau gan Monet, Renoir, Rodin a Cezanne. Pan fydd s?n y canu pêl droed ar y terasau yn ormod i chi, beth am ddianc i dawelwch yr adeilad trawiadol hwn yng nghanol prifddinas Cymru. Ond os taw tawelwch sy'n mynd â'ch bryd, yna byddai'n well i chi osgoi llawr gwaelod yr amgueddfa, sy'n gartref i'r casgliadau hanes naturiol a gwyddoniaeth, ac sy'n cynnwys casgliad gwych o ddinosoriaid, i gyd yn rhuo'n swnllyd i ddal sylw!

Ewch mewn i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a chredwch chi byth eich boid brin bum milltir allan o ganol Caerdydd. Mae'n union fel camu i mewn i fyd arall, byd sy'n olrhain hanes pobl Cymru dros y pum can mlynedd ddiwethaf, gyda chasgliad o dai wedi'u hail-godi o bob rhan o Gymru ym mhob cwr o'r safle coediog can erw. Mae siop goffi Gymreig-Eidalaidd newydd agor yn Sain Ffagan, y lle perffaith i gwrdd â ffrindiau am rywbeth i'w fwyta ar y penwythnos. Chewch chi unman gwell na Sain Ffagan os ydych chi wedi rhoi'r gorau i geisio deall y rheol ‘camsefyll'!

Mae Caerllion yn gartref i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – y lle i ddod i ddysgu am bopeth am y Rhufeiniaid – sut oedden nhw'n byw, gweithio a marw yng Nghymru. Os yw cleddyfwyr hanner noeth yn ymladd mewn caeau yn mynd â'ch bryd, beth am ymuno â ni ar gyfer y Sioe Filwrol ysblennydd, sy'n cael ei chynnal yn yr amffitheatr yng Nghaerllion am benwythnos cyfan ar 1-2 Gorffennaf.

Os ydych chi wedi meddwl sut beth fyddai bod mewn pwll glo, dewch i dreulio diwrnod yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, ym Mlaenafon yng nghymoedd de Cymru. Ewch 300 troedfedd dan ddaear gyda'n glowyr tywys, er mwyn gweld drosoch eich hun sut mae pwll glo yn gweithio. Mae'n brofiad bythgofiadwy. Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi am deithio i grombil y ddaear, mae digon i'w weld a'i wneud ar y ddaear yn ein harddangosfeydd arbennig. Ym Maddondai'r Pen Pwll.

Agorodd ein amgueddfa fwyaf newydd – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe – ei drysau ddiwedd Hydref, ac mae eisoes yn ffefryn mawr gydag ymwelwyr. Mae'r amgueddfa yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i adrodd hanes diwydiant drwy lygaid pobl Cymru. Cafodd yr amgueddfa ei chreu gyda'r syniad o fynediad am ddim mewn golwg, felly gallwch alw mewn am awr neu aros yno drwy'r dydd – mae i gyd yn dibynnu os oes rhaid i chi fod adref cyn y chwiban olaf. Ac os yw chwaraeon yn mynd â'ch bryd ond taw pêl siâp wahanol sy'n eich diddori, cewch weld crys Gareth Edwards – Y crys a wisgodd i ennill y Grand Slam. Profiad heb ei ail!

Ewch i'r gorllewin o Abertawe ac fe ddewch yn eithaf buan at fryniau gwyrddion Sir Gâr, cartref ein hamgueddfa genedlaethol leiaf, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhre-fach Felindre. Er ei bod yn fach, mae gan yr amgueddfa hon bersonoliaeth fawr ac mae'n ffefryn mawr gyda'r rheini sy'n galw heibio. Bu Dre-fach Felindre yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân flynyddoedd yn ôl – cymaint felly nes i'r pentref bach gael ei alw'n Huddersfield Cymru ar un pwynt, ac mae'r amgueddfa yn adrodd hanes hyn oll yn ogystal â bod yn gartref i'r casgliad tecstilau cenedlaethol.

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn gorwedd yn un o rannau harddaf Cymru, ar waelod yr Wyddfa ym mhentref Llanberis. Hanes y diwydiant llechi a geir yn yr amgueddfa brysur hon, sydd â'i chartref yn hen weithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig, a oedd yn un o'r mwyaf yn yr ardal ac yn enwog am allforio llechi i bob rhan o'r byd. Dewch i weld y crefftwyr wrth eu gwaith – mae ‘na sesiynau hollti a thrin y llechi â llaw bob dydd, a chewch wybod sut maen nhw'n gwneud addurniadau cain allan o dalp mawr o lechen. Os ydych chi am gael gwybod mwy am unrhyw beth tra'n crwydro ein hamgueddfeydd, mae ein tywyswyr a'n gofalwyr yma i'ch helpu chi ac i ateb eich cwestiynau – o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol am y safle i bob math o wybodaeth am y casgliadau. Ac ar ben hynny mae siopau, caffis a bwytai gwych yn ein hamgueddfeydd, felly manteisiwch i'r eithaf a mwynhau diwrnod cyfan gyda'r teulu.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol, cofrestrwch i gael copi o'n cylchlythyr. i ychwanegu eich enw at ein rhestr bostio.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu rhai o'i horielau. Bydd rhai orielau ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau 07 ar y we – www.amgueddfacymru.ac.uk. Am wybodaeth yngl?n â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch 029 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ceir mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth ar y datganiad hwn, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185.

Am ragor o fanylion ar yr ailddatblygiadau, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175.