Datganiadau i'r Wasg

Cynrychiolwyr o Slofacia yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Ddydd Mawrth, 6 Mehefin, bu Cwnswl Anrhydeddus Slofacia yng Nghymru, Nigel Payne ar ymweliad â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, gyda grŵp o uwch-swyddogion o’r wlad, er mwyn cael blas ar beth o hanes Cymru.

Cafodd Chargé d’Affaires Slofacia ym Mhrydain, Radovan Javorčik a Thrydydd Ysgrifennydd y Llysgenhadaeth ym Mhrydain, Zuzana Zitna, gyfle i grwydro gerddi ysblennydd y safle can erw ger Caerdydd, sy’n un o deulu Amgueddfa Cymru, yng nghwmni Rheolwr Ystâd Sain Ffagan,. Andrew Dixey. Yna, roedd cyfle i ymweld â’r ychwanegiad diweddaraf i’r amgueddfa, siop goffi arbennig Gymreig-Eidalaidd, Bwyty Bardi, sydd newydd agor yr wythnos hon.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r