Datganiadau i'r Wasg

Partneriaeth Amgueddfa Cymru a Cadw yn Llwyddiant 'Ysblenydd'!

Mae Amgueddfa Cymru a Cadw yn cydweithio ar benwythnos o ddigwyddiadau Rhufeinig yn nhref hanesyddol Caerllion.

Cynhelir y Sioe Filwrol ysblennydd – dathliad awyr agored Rhufeinig rhagorol – y penwythnos hwn, ac mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Cadw yn gweithio gyda'i gilydd i greu penwythnos i'w gofio.

Bydd grŵp o gladiatoriaid, Ars DImicandi, yn ymuno â grŵp ail-greu Rhufeinig yr Ermine Street Guards, i arddangos eu gallu arbennig i ymladd yn amffitheatr Caerllion, ac mae'n edrych yn debyg bod y sioe flynyddol am fod mor ysblennydd ag erioed ac yn llond lle o hwyl a sbri ar gyfer y teulu i gyd.

Meddai Bethan Lewis, Rheolwr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru:

“Mae'r Rhufeiniaid yn cymryd drosodd y dref ar benwythnos y Sioe Filwrol. Mae'n gyfle gwych i'r amgueddfa arddangos ein gwaith a'r berthynas sydd gennym gyda Cadw. Mae'n bleser gweithio gyda'n gilydd ar brosiectau fel hyn, ac mae'n gyfle i wneud y gorau o Gaerllion ei hun fel y lle i ddod am brofiad Rhufeinig go iawn.”

Mae Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh, yn falch o weld Amgueddfa Cymru a Cadw yn cydweithio mor agos, a meddai:

“Mae'r Sioe Filwrol yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yng Nghaerllion, ac rwy'n falch iawn o weld yr amgueddfa a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cydweithio'n agos er mwyn gwneud y gorau o'r digwyddiad. Mae'r sioe yn ddigwyddiad hynod o boblogaidd, ac mae'n bleser gweld y dref gyfan yn tynnu at ei gilydd ac yn coleddu popeth Rhufeinig!”

Cynhelir y sioe ddydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Gorffennaf yn yr Amffitheatr Rhufeinig yng Nghaerllion, 11am-5pm. Pris mynediad yw £4 i oedolion, £2 i blant a £10 i deuluoedd.

Mae Amgueddfa Cymru a Cadw'n cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd, sy'n cael eu lansio ar 3 Gorffennaf. Prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk <https://mail.nmgw.ac.uk/exchweb/bin/redir.asp?URL=http://www.hanfodhanes.org.uk/> . Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cadw yw isadran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.. Ei nod yw hyrwyddo gwaith cadwraeth ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru a gwerthfawrogiad ohono. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau a gerddi hanesyddol, tirweddau ac archeoleg danddwr. O'r siambrau claddu hynafol i'r degau o filoedd o dai Fictoriannaidd a bythynnod gweithwyr, mae Cadw yn gyfrifol am hanes adeiladol yng Nghymru sydd yn dyddio dros gan mil o flynyddoedd yn nôl. Mae yn oddeutu tair mil a hanner o henebion hynafol yng Nghymru a rhyw 27,000 o adeiladau yn adeiladau rhestredig.