Datganiadau i'r Wasg

Lansio Ystafell Ddysgu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Corus yn troi nôl at y dyfodol i geisio addysgu miloedd o bobl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Corus a Community, undeb y gweithwyr dur, wedi dewis cefnogi'r atyniad £33 miliwn trwy noddi Ystafell Ddysgu'r Amgueddfa.

Daeth Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, i’r Amgueddfa i weld y cyfleuster dysgu a ddatblygwyd gyda chymorth Corus a Community. Hefyd cafodd plant Ysgol Gynradd Llanmartin yng Nghasnewydd gyfle i sgwrsio â chyn-weithwyr a gweithwyr presennol Corus, y mae rhai ohonynt yn ymddangos ar ffilm yn yr Amgueddfa, i weld sut mae bywyd gwaith wedi newid.

Meddai Jane Davidson: "Mae'r ystafell ddysgu newydd yn gyfle gwych i ddod â'r amgueddfa yn fyw nid yn unig i blant a phobl ifanc ond hefyd i oedolion. Rwy'n hyderus y bydd yn datblygu yn adnodd adnodd pwysig ar gyfer y gymuned leol a thu hwnt, ac rwy'n annog pawb i ddod draw a chymryd rhan yn y gweithgareddau sydd eisoes wedi'u trefnu."

Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes – I’r Gymru Fydd, sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.