Datganiadau i'r Wasg

Peidiwch â Difa'r Ddaear!

Ym Mhrydain, rydym yn cynhyrchu digon o sbwriel i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob wythnos!  Pe byddai pawb yn byw fel ni, byddai angen dau fyd a hanner arnom!

Rhwng 22 Awst a 3 Medi, fe fydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal gweithdai i ddangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth.

Dewch i ddysgu sut gallwn ni ddefnyddio ynni gwynt, yr haul a d?r gyda llwyth o weithgareddau ymarferol llawn hwyl.

Peidiwch â mynd yn y car, cerddwch neu ewch ar gefn beic. Byddwch yn iachach ac yn creu llai o lygredd ar ein heolydd. Arbedwch ynni yn y cartref lle bo modd. Bydd hyn yn sicrhau bod llai o garbon deuocsid yn cael ei rhyddhau i’r awyr, sydd yn cyfrannu at gynhesu byd eang. Arbedwch dd?r. Caewch y tap tra byddwch yn brwsio’ch dannedd – mae hyn yn arbed 10 litr o dd?r bob dydd. A beth am ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff er mwyn creu llai o sbwriel?

Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut gallwch chi wneud gwahaniaeth, ond fe fydd ein gweithdai’n llawn ffeithiau difyr, felly gwnewch yn si?r eich bod yn galw mewn.  

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalennau 07.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.