Datganiadau i'r Wasg

Cyfraniad y Rhufeiniaid i'n Bywydau ni Heddiw

Anghofiwch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan yma yn yr unfed ganrif ar hugain. Dewch i ddarganfod cymhlethdodau gwleidyddiaeth yn y DU yn ystod cyfnod y Rhufeiniad, yn Narlith Flynyddol Caerllion, a gynhelir ddydd Sadwrn 23 Medi.

Bydd darlith eleni, a draddodir gan Dr Fraser Hunter o Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng bywydau pobl ar y naill ochr a'r llall i'r rheng filwrol ar ffiniau Rhufeinig Ynysoedd Prydain. Yn y ddarlith, cawn hefyd eglurhad yngl?n â sut mae archaeoleg yn ein helpu i ddeall beth oedd natur y gwahaniaethau hyn – y gwahaniaethau rhwng y cymdeithasau Celtaidd a Rhufeinig.

Cawn eglurhad pellach gan Bethan Lewis, Rheolwr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, “Bob blwyddyn, bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n dathlu pen-blwydd yr Ymerawdwr Augustus, a roddodd ei enw ar y Lleng, drwy gynnal Darlith Flynyddol. Pwrpas y digwyddiad yw dod â rhai o themâu a phynciau'r Amgueddfa'n fyw o flaen ein llygaid.

Cynhelir y ddarlith yn Neuadd yr Ysgol Iau yn Endowed School, Caerllion am 3 pm. Pris tocynnau yw £3. Os ydych chi am gael tocyn, ffoniwch Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar (01633) 423134. Yn ogystal â hyn, estynnir gwahoddiad i ddeiliaid tocynnau ddod i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar ôl y ddarlith i godi'u gwydrau a dymuno iechyd i'r Lleng.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i'n tudalennau.

Cynigir mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.