Datganiadau i'r Wasg

Gadewch i Paul Robeson Ganu yn y Big Pit

Bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon drwy gynnal arddangosfa am fywyd Paul Robeson, yr actor, canwr, pencampwr chwaraeon a’r ymgyrchydd dros hawliau sifil.

Cynhyrchwyd yr arddangosfa gan brosiect ‘CROESO’ y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mewn ffordd wefreiddiol llawn ysbrydoliaeth, mae’n adrodd hanes Robeson wrth iddo ddod wyneb yn wyneb â rhagfarn ac anoddefgarwch.

Dywedodd Sharon Ford, Swyddog Addysg Big Pit: “Dyma arddangosfa sy’n ysbrydoli, ac sy’n archwilio bywyd dyn hynod, ei gysylltiadau â’r Cymry a’i bwysigrwydd wrth drafod amrywiaeth a chydraddoldeb hiliol. Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd Croeso hefyd yn cynnal cyfres o weithdai mewn ysgolion, lle gall pobl ifanc o gymunedau yn ne Cymru ddysgu mwy am Paul Robeson.

“Mae’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn y gweithdai’n dod o ardal eang – o Ferthyr Tudful i Gasnewydd, ac o Flaenau Gwent i Gas-Gwent. Bydd gan bob un ohonynt gyfle i ymateb i’r arddangosfa ac i archwilio eu canfyddiad eu hunain o gydraddoldeb hiliol.

“Mae’r arddangosfa’n haeddu ei lle, gan fod Paul Robeson wedi uniaethu cymaint â mwynwyr de Cymru, ac fe gafodd ei fabwysiadu gan filoedd o weithwyr y pyllau yn ne Cymru fel icon o’u hymdrech rhag gorthrwm y cyfnod.”

Bydd arddangosfa Gadewch i Paul Robeson Ganu yn cael ei chynnal yn Big Pit o ddydd Sadwrn 30 Medi tan ddydd Iau 12 Hydref.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.