Datganiadau i'r Wasg

Ai lol oedd gwladoli? Big Pit yn cofio 60 mlynedd ers gwladoli'r diwydiant glo

Heddiw (2 Ionawr 2007) bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, un o brif atyniadau glofaol y DU, yn cofio 60 mlynedd ers i holl lofeydd y DU gael eu perchnogi gan y cyhoedd.

 

Ar 1 Ionawr 1947, perchnogodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol tua 800 o lofeydd preifat ym mhob rhan o'r DU. Er mwyn dathlu'r achlysur cododd y glowyr faner y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Er mwyn cadw'r traddodiad bydd Peter Richings, glöwr ieuengaf Big Pit, yn codi atgynhyrchiad o'r faner ar ben y pwll am 11.00 am ar 2 Ionawr 2007.

Yn ôl datganiad i'r wasg ym 1954, daeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol â newid mawr i'r diwydiant glo yn ne Cymru, ond mae llyfryn newydd Big Pit, GLO - N C Bloody B, fydd yn cael ei lansio'n hwyrach ym mis Ionawr, yn canolbwyntio ar farn glowyr ynglyn a gwladoli glofeydd yng Nghymru.

Wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer y llyfryn, bu Ceri Thompson, Curadur yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, yn cyfweld â glowyr oedd wedi brwydro i newid y diwydiant a'r rhai sy'n cofio effaith y datblygiadau.

Yn ôl Ceri, "Roedd hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un oedd yn canmol y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Ym 1947, ar ôl cwymp y diwydiant glo yn ystod y 1920au a'r 30au, croesawyd y gwladoli'n eang gan lowyr oedd am atal myrdd o byllau rhag cau ac am sicrhau amodau gwaith gwell a mwy diogel. Y nod wrth wladoli oedd rhoi mwy o lais i'r glowyr yngl?n â sut i redeg y diwydiant, ond yn ôl ein canfyddiadau, ni fu'r newid mewn rheolaeth mor fuddiol â'r hyn a obeithiwyd."

Mae'r farn yn amrywio yngl?n ag effeithiolrwydd tymor hir y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ond roedd y Diwrnod Breinio (1 Ionawr 1947) ei hun yn ddyddiad pwysig iawn i lowyr Cymru.

Dywedodd Peter Walker, Rheolwr Big Pit: "Nid oedd gwladoli'r pyllau glo union beth oedd glowyr y 1930au a'r 40au yn ei ddisgwyl efallai, ond ni ellir gwadu hebddo ni fyddai diwydiant glo Prydain wedi datblygu i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf effeithiol a diogel yn y byd.

"Yr hyn mae Big Pit wedi'i wneud erioed yw ceisio adrodd hanes mwyngloddio yng Nghymru drwy lygaid y bobl a greodd y diwydiant, a dyna'r hyn y mae'r llyfryn yn ei wneud. Mae GLO - N C Bloody B yn cynnwys safbwyntiau ac atgofion y rhai fu'n gweithio yn y pyllau, ac yn creu darlun gonest o fywyd ym meysydd glo Cymru o 1947 ymlaen."

Yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwch ymweld â Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn rhad ac am ddim. Mae'r safle ar agor ym mis Ionawr rhwng 10.00 am a 4.30 pm.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan.

Diwedd

Nodiadau i'r Golygyddion

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 07920 027067 neu anfonwch e-bost at: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk