Datganiadau i'r Wasg

Rhaglen Gyffrous ar gyfer Hanner Tymor yn Sain Ffagan

Wrth i Gymru ymbaratoi i wynebu'r tair wlad sydd yn weddill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, paratoi at agoriad oriel newydd sbon, Oriel 1 y mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru gyda chyfres o ddigwyddiadau ym mis Chwefror sydd yn addas ar gyfer cefnogwyr brwd rygbi Cymru.

Mae gweithgareddau hanner tymor yr amgueddfa awyr agored wedi eu trefnu ynghylch beth sy'n ein gwneud ni'n falch i fod yn Gymry - thema sy'n cael sylw yn Oriel 1, fydd yn agor yn Sain Ffagan yn hwyrach yn y Gwanwyn.  

Os ydych chi'n breuddwydio am ymuno â charfan Cymru, dewch i ddysgu tactegau gan y Gleision ifanc ar 20 Chwefror 11:00 y bore - 3:15 y prynhawn neu dewch i gwestiynu asgellwr Dreigiau Gwent Nathan Brew, ynglyn a'i yrfa o 2:00 - 3:00 y prynhawn ar 22 Chwefror.

Gyda'r tymor rygbi yn ei hanterth, ymunwch â ni ar gyfer ein diwrnod crefftau ar thema crys rygbi Cymru (17 - 25 Chwefror, 11:00 y bore - 1:00 y prynhawn a 2:00 - 4:00 y prynhawn). Teimlwch yn rhan o garfan Cymru drwy greu eich crys cenedlaethol eich hunain.

Neu efallai taw'r ddraig goch sydd bwysicaf i chi ond ydych chi'n gwybod pam fod draig goch ar faner Cymru? Gwrandewch ar chwedlau, coelion ac ychydig o ffeithiau diddorol ym Mhentref Celtaidd yr Amgueddfa ar 19 - 20 a 24 - 25 Chwefror 11:00 y bore - 1:00 y pryhawn a 2:00 - 3.30 y prynhawn.

Dewch i weld gwrthrychau o Oriel Enwogion y Byd Chwaraeon yn Ystafell Ddarllen Oakdale ar 19 a 20 Chwefror o 11.30 y bore hyd at 2:00 y prynhawn - cyfle i chi ail-fyw eich hoff gais a darganfod rhagor am bwy yn eich meddwl chi yw'r seren chwaraeon enwocaf erioed.