Datganiadau i'r Wasg

Paentio’r Maes Glo

Mae bywyd glöwr wedi ysbrydoli nifer o arlunwyr dros y blynyddoedd. Yn ystod hanner tymor, bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn rhoi cyfle i ymwelwyr i greu darluniau ac astudio gweithiau arlunwyr a ddylanwadwyd gan y thema, gan gynnwys rhai a weithiodd mewn maes glo eu hunain.

Cynhelir gweithdau yn Big Pit ar 19, 21 a 23 Chwefror (11:00 y  bore - 4:00 y prynhawn) er mwyn i ymwelwyr allu dysgu mwy am y diwydiant a dylunio neu paentio'u syniadau nhw eu hunain am fywyd yn y maes glo.

Dywedodd Sharon Ford, Swyddog Addysg Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru:

"Mae'n weithgaredd sy'n addas ar gyfer y teulu cyfan, a byddwn ni'n annog ymwelwyr i ddefnyddio'u sgiliau creadigol i greu gweithiau celf i'w cadw. Arferai'r artistiaid y byddwn yn eu hastudio ddefnyddio pa bynnag declyn oedd ar gael iddyn nhw gan gynnwys brwsiys, eu bysedd, cadachau a hyd yn oed llwch glo er mwyn cynhyrchu peintiadau, cerfluniau, lluniau a modelau. Byddwn yn arbrofi gyda dulliau a steiliau gwahanol gan ganolbwyntio ar Nicholas Evans, sydd yn enwog am ei luniau tywyll, Vincent Evans a bortreadodd golau o dan y ddaear yn berffaith, yn ogystal â gweithiau Josef Herman a George Brinley Evans."

Bydd teithiau tanddaearol Big Pit ar agor bob dydd yn ystod hanner tymor o 10:00 y bore hyd at 3.30 y prynhawn - cyfle i fynd 300 troedfedd o dan y ddaear. Ffoniwch 01495 790311 am ragor o wybodaeth neu i drefnu taith grwp tanddaearol.