Datganiadau i'r Wasg

jhgmhgfg

Trafodir bywyd Archie Rhys Griffiths  – glöwr a ddaeth yn arlunydd - mewn darlith gyhoeddus rhad ac am ddim yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ar ddydd Sadwrn, 31 Mawrth 2007.

 

Roedd deallusion 20au a 30au’r ugeinfed ganrif yn ymddiddori yng ngwaith glöwyr arlunwyr fel Archie Rhys Griffiths ac am 2:30pm ar ddydd Sadwrn, bydd yr hanesydd celf Peter Lord yn egluro pam fod gweithiau celf Griffiths mor atyniadol.  

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar yrfa Griffiths – y glöwr gafodd ei eni yn Aberdâr a fu’n gweithio dan y ddaear mewn pwll glo yng Ngorseinon. Aeth o’r pwll glo i Ysgol Gelf Abertawe ac yna i’r Coleg Celf Brenhinol dan anogaeth aelodau rhyddfrydig o’r sefydliad fel Syr Williams Rothenstein.   

“Gadawodd Archie Rhys Griffiths y pwll glo yn ystod y Dirwasgiad ac fe ddaeth yn alunydd,” dywedodd Peter Lord. “Darlunir mwy na bywyd glowr yn ystod yr adeg honno yn ei baentiadau. Mae ei weithiau’n gyfuniad o ymateb Marcsaidd a Christnogol i drawma dosbarth gweithiol y cyfnod.”

Unwaith yn arlunydd blaenllaw, yn anffodus tristwch ac nid ysbrydoliaeth oedd diwedd gyrfa Archie Rhys Griffiths, a dim ond ychydig o’i weithiau mwyngloddio sydd wedi goroesi.

Cynhaliwyd Darlith Flynyddol gyntaf Big Pit, enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau’r DU yn 2005, dair blynedd yn ol yn 2004. Fel y blynyddoedd cynt, mae’n argoeli’n dda ar gyfer digwyddiad eleni, ac am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01495 790311. Mae’r tocynnau am ddim ond rhaid bwcio ymlaen llaw drwy ffonio 029 2057 3466.

Yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwch ymweld â safleoedd Amgueddfa Cymru gan gynnwys Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn rhad ac am ddim.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3486 / 07920 027067.