Datganiadau i'r Wasg

Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth

Arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 1 Mai-4 Tachwedd

Ddwy ganrif yn ôl ar 1 Mai, daeth Deddf Diddymu’r Farchnad Gaethwasiaeth i rym. Os ydych yn credu nad oedd a wnelo Cymru ddim â chaethwasiaeth - cewch eich synnu!

Bu pobl yng Nghymru’n ymwneud â chaethwasiaeth ymhell cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, drwy erchyllterau’r llwybrau masnach ar draws Môr yr Iwerydd hyd at unfed ganrif ar hugain.

 

Mae 2007 yn dynodi 200 gan mlynedd ers i senedd Prydain ddiddymu’r fasnach gaethweision - carreg filltir bwysig yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth. I gofio hyn, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n cynnal arddangosfa o fis Mai hyd fis Hydref, a bydd fersiwn lai o’r arddangosfa ar daith ar hyd a lled Cymru o fis Gorffennaf ymlaen. Bydd yr arddangosfa’n archwilio rôl bwysig Cymru a’i phobl yn y mathau amrywiol o gaethwasiaeth a’r frwydr barhaus yn eu herbyn.

 

Roedd y fasnach gaethweision dros fôr yr Iwerydd yn ffynhonnell ar gyfer datblygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd Cymru, ac roedd yn effeithio ar bawb bron. O’r diwydiannau fu’n helpu i gyflenwi’r fasnach – haearn copr a brethyn – i’r cynnyrch ar ddefnyddiai’r Cymry - siwgr, r?m, tybaco a chotwm. Roedd gan bawb eu rhan yn y fasnach, pe gwyddent hynny ai peidio.

 

Ond mae’r Cymry hefyd wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth: yn lobïo’r llywodraeth, yn helpu caethweision sydd wedi dianc ac yn ymgyrchu dros hawliau dynol. Heddiw, mae’r frwydr yn parhau gan fod caethwasiaeth anghyfreithlon yn bodoli o hyd ar ffurf smyglo merched sy’n cael eu gorfodi i weithio fel puteiniaid, a nwyddau rhad a gynhyrchir gan weithwyr llafur caeth.

 

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris: “Mae’r arddangosfa’n edrych ar hanes Cymru a chaethwasiaeth o’r gorffennol i’r presennol. Gan ganolbwyntio ar y cefnogwyr a’r gwrthwynebwyr, bydd hefyd yn tynnu ein sylw at faterion megis hawliau dynol a masnach deg, ac yn egluro presenoldeb etifeddiaeth caethwasiaeth mewn cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd cyfoes.”

 

Bydd rhaglen o sgyrsiau a gweithdai arbennig yn cael eu trefnu i gyd-fynd â’r arddangosfa. Bydd fersiwn lai o’r arddangosfa’n mynd ar daith o amgylch Cymru tan 2009.

 

Dyluniwyd Traed mewn Cyffion gan bartneriaeth sy’n cynnwys Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor a CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a bydd yr arddangosfa’n cael ei chynnal rhwng 1 Mai a 4 Tachwedd 2007.