Datganiadau i'r Wasg

Haf Hwylus yn Sain Ffagan

Y ffigyrau ymwelwyr uchaf erioed ac aelodau newydd o staff - mae'n argoeli'n dda ar gyfer yr haf yn yr Amgueddfa. Nid yw'r newid sydyn yn y tywydd wedi diflasu staff Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - atyniad gorau Cymru - a brofodd ddechrau llwyddiannus i'r flwyddyn. Gall Sain Ffagan edrych ymlaen yn hyderus at yr haf ar ôl torri'r record am niferoedd  ymwelwyr a dechrau ar gynlluniau newydd sbon.

Croesawodd yr Amgueddfa 103,446 o bobl ym mis Ebrill 2007, sy'n curo'r targed o 76,000. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Mai yn well na'r llynedd hefyd - dros 70,000 o'i gymharu â 64,054 yn 2006.

"Mae hi wedi bod yn ddechrau da i'r tymor," dywedodd Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru. "Dros y ddau fis diwethaf, mae ymwelwyr wedi mwynhau profiadau newydd yn yr Amgueddfa, nid yn unig drwy gymryd mantais o'r tywydd braf yn yr Amgueddfa awyr agored, ond hefyd wrth archwilio ein harddangosfa Perthyn arbrofol yn Oriel 1 - oriel newydd Sain Ffagan.

"Mae'r niferoedd sy'n ymweld â ni yn ystod ein canmlwyddiant yn profi fod Sain Ffagan mor boblogaidd ag erioed. Mae'r haf yn yr Amgueddfa'n cynnwys perfformiadau gyda'r hwyr gan Theatr Everyman, ffair draddodiadol, cerddoriaeth ger y llyn - a hyn oll am ddim diolch i gefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni hefyd yn paratoi ar gyfer agoriad Eglwys ganoloesol Teilo Sant yn yr Hydref - project ailgodi mwyaf uchelgeisiol yr Amgueddfa hyd yma."

Fe all ymwelwyr hefyd ddysgu rhagor am goetir Sain Ffagan ac am y creaduriaid sy'n byw yn y coed gan Gareth Bonello, a benodwyd yn Ddehonglydd yn ddiweddar. Bydd y tîm garddio yn manteisio ar brofiad eu haelod diweddaraf, Sarah Thackeray a bydd Ian Daniel yn dod â'r Oes Haearn yn fyw yn y Pentref Celtaidd.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk. Llun atodedig: ‘Ychydig o'r miloedd o ymwelwyr a groesewir i Sain Ffagan.'

Nodiadau i Olygyddion:

  • Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae'r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.  

            Am ragor o wybodaeth, ewch i www.principality.co.uk.

  • Mae cwmni lloriau WESTCO, sy'n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,' yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i'w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.