Datganiadau i'r Wasg

Seiniau newydd yn Sain Ffagan

Cafodd cloch newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer Eglwys Teilo Sant - a symudwyd fesul carreg o’i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - ei chanu am y tro cyntaf heddiw (dydd Llun 4 Mehefin 2007).

Cafodd Mr Hefin Looker, un o Noddwyr Amgueddfa Cymru a chyn Cadeirydd Cyfeillion yr Amgueddfa'r cyfle cyntaf i ganu'r gloch prynhawn yma. Ariannwyd y gloch gan Mr Looker er cof am ei wraig, Gwyneth. 

Bydd yr eglwys ganoloesol sydd wedi cael ei hadnewyddu'n llwyr i ymddangos fel y byddai wedi gwneud tua 1520, yn agor yn swyddogol ar 14 Hydref 2007. Mae'r broses o ailgodi'r adeilad hwn yn Sain Ffagan wedi bod yn atyniad ynddo'i hun. O lygad y ffynnon, mae ymwelwyr wedi gweld y dulliau traddodiadol a ddefnyddir gan grefftwyr arbenigol yr Amgueddfa i ailadeiladu eglwys ganoloesol o waith cerrig am y tro cyntaf yn y DU.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.