Datganiadau i'r Wasg

Archesgob Caergaint yn agor Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan ar yr her o symud, ailgodi ac adfer eglwys ganoloesol o waith maen – un o’r projectau cyntaf o’i fath yn Ewrop. Ar 14 Hydref 2007 agorodd Y Parchedicaf Dr Rowan Williams Archesgob Caergaint yr adeilad hynod hwn – Eglwys Sant Teilo o Bontarddulais – yn swyddogol yn yr amgueddfa awyr agored ar gyrion Caerdydd.

Mewn seremoni arbennig o dan arweiniad Archesgob Caergaint, dathlodd gwesteion - gan gynnwys cynrychiolwyr o grefyddau ledled Cymru - llwyddiannau Amgueddfa Cymru i symud ac ail-godi’r ‘hen eglwys ar y gors.’ Fe gynigiodd yr Eglwys yng Nghymru’r adeilad i Amgueddfa Cymru pan ddechreuodd ddirywio’n arw ac roedd ymsuddiant, llifogydd achlysurol a lleoliad anghysbell yr eglwys wedi atal unrhyw ymgais i’w hadfer.

Bu Eglwys Sant Teilo’n gwasanaethu Llandeilo Tal-y-bont am ryw 800 o flynyddoedd a daeth yn dipyn o eicon yn yr ardal. Ond daeth oes yr adeilad fel eglwys y plwyf i ben ym 1852 pan adeiladwyd eglwys newydd, eto o’r enw Sant Teilo, ym Mhontarddulais gerllaw. Defnyddiwyd yr hen eglwys ar gyfer claddu a gwasanaethau achlysurol o hyd, ond daeth y rhain i ben ym 1973, a dadfeiliodd yr adeilad yn ddifrifol.

Ar ôl symud yr adeilad garreg wrth garreg o lannau afon Llwchwr i safle 100 erw’r Amgueddfa, mae seiri maen, seiri coed a pheintwyr yr amgueddfa wedi ailgodi ac addurno’r eglwys fel y byddai wedi bod yn y 1520au. Y prif reswm dros ddewis y cyfnod hwn oedd bod y crefftwyr wedi ffeindio set o furluniau prin iawn o’r cyfnod ar y safle wrth ddatgymalu’r adeilad.

“Wedi’i haddurno â'i gwisg ganoloesol fe fydd yn ddatguddiad i bawb ac yn cynnig cipolwg ar agweddau o hanes cudd ein gwlad,” meddai’r Parchedig John Walters, Ficer Eglwys newydd Sant Teilo ym Mhontarddulais. “Bu'r adeilad yn rhan o hanes crefyddol a chymdeithasol yr ardal am ganrifoedd ac yn agos iawn i galonnau trigolion y fro.”

Y Prif Weinidog Rhodri Morgan yw un o’r rheiny sydd ag atgofion melys o’r Eglwys:

“Rydw i’n hapus iawn fod yr Amgueddfa wedi gallu achub yr hyn oedd llawer mwy nag adeilad ym Mhontarddulais. Mae gan nifer o bobl gysylltiadau personol iawn gydag Eglwys Sant Teilo gan gynnwys fi fy hun; fy hen, hen fam-gu a fy hen, hen

dad-cu oedd un o’r cyplau olaf i briodi yno.  Yn dilyn marwolaeth fy hen, hen fam-gu wrth roi genedigaeth, fe ail-briododd fy hen, hen dad-cu yn yr eglwys newydd ym Mhontarddulais - y briodas gyntaf yn yr eglwys honno.  Dwi’n meddwl fod hynny’n adlewyrchu sut y gwnaeth cymdeithas newid o fod yn un wledig yn bennaf i fod yn gymdeithas drefol.”

“Dwi wedi gwylio sgiliau arbennig y tîm adnewyddu sydd wedi ail-godi’r adeilad ac wedi achub y murluniau.  Mae’r adeilad hwn yn ychwanegiad neilltuol i’r wledd o hanes Cymru sydd i’w gweld yn Sain Ffagan.” 

Defnyddiwyd yr holl ddeunyddiau gwreiddiol posib, ac ymchwiliwyd yn fanwl i unrhyw ddarnau coll er mwyn iddynt gael eu hatgynhyrchu gan arbenigwyr er mwyn sicrhau bod yr eglwys mor ddilys â phosibl. Mae’r adeilad yn cynnwys croglen wedi ei cherfio â llaw ac mae murluniau ar y waliau sy’n ail-greu’r rhai gwreiddiol a ganfuwyd ar y safle.

Mae Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru’n credu y daw’r adeilad yn eicon yn Sain Ffagan am ei bod hi wedi denu pobl yn eu lluoedd yn ystod y gwaith adeiladu. Meddai:

“Defnyddiodd ein crefftwyr o Uned Adeiladau Hanesyddol yr Amgueddfa’r un offer, deunyddiau a thechnegau a ddefnyddiwyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl i ail-greu eglwys sydd eisoes wedi denu miloedd o bobl i Sain Ffagan. Am y tro cyntaf, mae’r ymwelwyr wedi cael gweld y broses o ail-godi adeilad â’u llygaid eu hunain, gan fynd i mewn i rannau o’r eglwys a siarad â’r bobl sydd wedi bod wrthi’n gwneud y gwaith.

“Mae rhai eglwysi wedi cael eu hail-godi ar gyfandir Ewrop, y mwyafrif helaeth ohonynt o bren, ond adeilad o garreg solet yw hon,” meddai Mr Loveluck. “Ailgodi Eglwys Sant Teilo yn sicr yw un o brojectau mwyaf uchelgeisiol Amgueddfa Cymru hyd yma.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon.

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cyfleoedd gyfweld neu luniau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.