Datganiadau i'r Wasg

Adroddiad Blynyddol Amgueddfa Cymru 2006-07

Y Senedd, Bae Caerdydd
12.30 pm, dydd Iau, 25 Hydref 2007

Bydd yr achlysur cyhoeddus uchod, a gaiff ei gyflwyno gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, yn amlinellu strategaeth 10 mlynedd i drawsnewid Sain Ffagan – atyniad mwyaf poblogaidd Cymru.

Yn ogystal ag amlinellu gorchestion saith amgueddfa genedlaethol Cymru yn 2006-07, bydd yr achlysur yn gyfle i chi glywed rhagor am ein hymdrechion i ddefnyddio blwyddyn ein Canmlwyddiant fel llwyfan i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf – sef bod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol.

Wrth galon y weledigaeth mae cynllun uchelgeisiol i osod Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wrth graidd yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig o ran twristiaeth ddiwydiannol.

Bydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan, yn dweud:

“Dros y degawd nesaf, byddwn ni’n datblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i fod yn lle sy’n adrodd stori Cymru, y wlad a’i phobl, o’r dechrau’n deg hyd heddiw.

“Mae anrhydeddu’r gorffennol, a straeon ac atgofion unigol yn ddyhead elfennol i genhedloedd a phobloedd. Hebddynt, nid oes gan bobl ymdeimlad o berthyn.

“Cymrwyd y camau cyntaf i drawsnewid Sain Ffagan eleni wrth i ni agor Oriel 1. Thema’r Oriel yw Perthyn, ac fe’i noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality.

“Wrth greu’r Oriel, bu cymunedau o Gymru benbaladr yn cydweithio â churaduron yr Amgueddfa i adrodd straeon cyfoethog ac amrywiol am ein gorffennol a’n presennol.

“Ond dim ond y dechrau yw Oriel 1.”

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC:

“Mae ein hamgueddfeydd cenedlaethol yn rhan pwysig o'n hanes a'n treftadaeth. Mae'r modd y maent wedi esblygu dros y blynyddoedd gan ddenu cynulleidfaoedd newydd ac aros yn berthnasol i genedlaethau newydd yn dyst i'w llwyddiant.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiadau cyffrous ar droed dros y deng mlynedd nesaf.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.