Datganiadau i'r Wasg
Gweithgareddau Hanner Tymor a Calan Gaeaf
Dyddiad:
2007-10-26Os ydych chi'n chwilio am weithgareddau Hanner Tymor a Chalan Gaeaf i gadw'r plant yn brysur yn ystod yr wythnos nesaf, yna Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yw'r lle i chi.
Ar 29 a 30 Hydref 2007 bydd yr Amgueddfa yn cymryd rhan yn ymgyrch
‘Y Darlun Mawr’ – cynllun cenedlaethol i hybu arlunio. Mae adeiladau a chasgliadau’r Amgueddfa wedi ysbrydoli nifer o artistiaid dros y blynyddoedd ac eleni, bydd yr ymgyrch yn Llanberis yn canolbwyntio ar siapiau’r Amgueddfa, yn enwedig y casgliad enfawr o batrymau pren. Esboniodd Julie Williams, Swyddog Marchnata yr Amgueddfa ymhellach:
“Eleni rydym yn cynnal gweithdai i blant wedi’u selio ar y llofft batrwm a’r ffowndri. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi ehangu ar ein storfeydd casgliadau er mwyn eu diogelu a dyma gyfle i’r cyhoedd ddenu sylw atyn nhw drwy eu harlunio. Bydd y gweithdai’n cael eu rhedeg gan yr arlunydd Catrin Williams a bydd cyfle i weithio ar bren a llechen yn ystod y digwyddiad.”
Ar gyfer Calan Gaeaf bydd prynhawn o weithgareddau ar 31 Hydref a chyfle i blant greu crefft arswydus, paentio wynebau a chyfarfod â thylluanod Ymddiredolaeth Gogledd Cymru!
Mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cynhelir y gweithdai ‘Darlun Mawr’ ar 29 a 30 Hydref rhnwg 11am – 1pm a 2pm – 4pm. Cyfyngir niferoedd ac awgrymir trefnu lle o flaen llaw drwy ffonio 01286 873707. Ar 31 Hydref rhwng 12pm a 4pm mae gweithgareddau Calan Gaeaf.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon.
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Julie Williams, Swyddog y Wasg a Marchnata ar 01286 873707 neu ebost julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk.