Datganiadau i'r Wasg

Creu Dyfodol o'r Gorffennol

Pobl Ifanc, Treftadaeth a Diwylliant – Creu Dyfodol o’r Gorffennol

Bydd y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC, yn agor cynhadledd undydd ar thema treftadaeth, diwylliant a’r celfyddydau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 15 Tachwedd 2007, gan edrych ar ddulliau newydd o weithio gyda phobl ifanc. 

Nod ‘Pobl Ifanc, Treftadaeth a Diwylliant – Creu Dyfodol o’r Gorffennol’ yw meithrin cysylltiadau byw rhwng artistiaid, pobl sy’n gweithio ym maes ieuenctid, pobl ifanc, arianwyr, cyrff achredu a sefydliadau treftadaeth.

Un enghraifft o hyn yw project ‘Ar Dir Cyffredin’ Amgueddfa Cymru. Mae’r project, sy’n gweithio gyda phobl ifanc dan anfantais, wedi bod yn gweithredu ers pum mlynedd bellach, ac mae’n defnyddio treftadaeth, diwylliant a’r celfyddydau fel sail ar gyfer ei weithgareddau.  

Mae tua 400 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yng ngwaith y project erbyn hyn. Roedd y bobl ifanc hyn wedi wynebu rhwystrau di-ri i chwarae rhan yn y gymuned. Ond rhoddodd y project gyfle iddynt ddatblygu eu gwaith diddorol a pherthnasol eu hunain dan amodau arloesol, creadigol a chysurus. Bu’r grwpiau’n edrych ar agweddau ar eu treftadaeth ddiwylliannol, a chreu gwaith project o safon uchel mewn cyfrwng o’u dewis – unrhyw beth o gelfyddyd gain i wneud ffilmiau neu ddylunio gwefannau. 

“Mae hi’n amlwg bod defnyddio treftadaeth, diwylliant a chasgliadau amgueddfa’n ffordd effeithiol o sbarduno a chynnal brwdfrydedd ar ôl goresgyn y rhwystr sylfaenol fod ‘amgueddfeydd yn ddiflas’” meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan.

“Mae’r project yn amlygu arwyddocâd dewis lle mae unigolion yn cael cyfle i wneud eu penderfyniadau eu hunain am y gwasanaethau a ddarperir.” 

Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth, a fydd yn agor y gynhadledd:

“Mae Ar Dir Cyffredin wedi darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer y bobl ifanc yma, ac wedi dangos bod gan amgueddfeydd rhywbeth i’w gynnig i’r gymuned gyfan yn y 21ain ganrif, dim ots am oedran, gallu na chefndir diwylliannol.

“Mae llawer o’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan wedi profi methiant a dieithrwch o’r amgylcheddau dysgu mwy confensiynol, felly mae’r project yma, a rhai eraill tebyg, yn cynnig llwybrau newydd iddynt ddatblygu, cyflawni a phrofi llwyddiant.

“Mae heddiw yn gyfle i dynnu artistiaid, gweithwyr ieuenctid, pobl ifanc, arianwyr, cyrff achredu a chyrff treftadaeth at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, meithrin cysylltiadau newydd a chael eu hysbrydoli.”

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru; Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i’r holl Amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â

Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol

Amgueddfa Cymru

(029) 2057 3175 / 07812 801356

Sian.james@amgueddfacymru.ac.uk