Datganiadau i'r Wasg

DWYNVAL

Calonnau Carreg yn dathlu Cariad

Datganiad i’r Wasg - 15 Ionawr  2008

Calonnau carreg yn dathlu cariad      

Gyda dau ddiwrnod llawn rhamant ar y gorwel – Diwrnod Santes Dwynwen (25 Ionawr) a Sant Ffolant (14 Chwefror) beth am alw draw i Amgueddfa Lechi Cymru i gael anrheg unigryw i’ch anwylyd – calon lechi wedi ei gwneud â llaw.

 

Mae’r calonnau carreg yn unigryw i’r amgueddfa a chrefftwyr y chwarel sy’n eu gwneud nhw.

“Mae ein crefftwyr wedi bod yn gwneud calonnau llechi ers sawl blwyddyn bellach ac maen nhw bob amser yn boblogaidd gyda’n hymwelwyr am eu bod nhw’n roddion arbennig.” Meddai’r Swyddog Marchnata, Julie Williams. “Gellir eu rhoi’n unigol fel cardiau bach neu labeli anrhegion, neu gallwch ddefnyddio’r gyda’r rhai newydd sy’n fwy o faint (5”) fel matiau dal diod er enghraifft.” 

 

I ddathlu Santes Dwynwen, bydd yr Amgueddfa’n cynnal gweithgareddau crefftau rhwng 1pm a 3pm ar 20 Ionawr pan caiff ymwelwyr gyfle i wneud cardiau a chreu llyfr sgrap bach ar sail stori Dwynwen!

 

Mae’r calonnau llechi – sy’n dod mewn dau faint – 3” a 5” – ar gael o siop yr Amgueddfa tan 14 Chwefror 2008.

 

Mae’r holl ddigwyddiadau, a mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

- DIWEDD -

I gael rhagor o fanylion a lluniau i’r wasg, ffoniwch Julie Williams ar 01286 873707, e-bostiwch

julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk. Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru.