Datganiadau i'r Wasg

Sut fyddwch chi'n ei ddweud?

Mae gan Gymry ddau gyfle i ddweud ‘Rwy’n dy garu di’ yn ystod y flwyddyn. A hithau ar drothwy Dydd Santes Dwynwen (25 Ionawr), mae nifer o Gymry’n cynllunio sut i fynegi eu teimladau. Anfonir blodau, rhennir bocsys siocled neu beth am gymryd cyngor Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a rhoi anrheg unigryw i’ch partner eleni? 

Yn draddodiadol yng Nghymru, arferai dynion ifanc gyflwyno llwy bren – neu lwy garu – i’w cariadon yn arwydd o’u cariad tuag atynt. Cerfiwyd y llwy allan o un darn o bren gan gynnwys symbolau gwahanol, rhai ohonynt wedi eu dyfeisio gan yr unigolyn i arddangos eu teimladau a gobeithion rhamantaidd.  

Ond os nad oes amser gyda chi i gerfio llwy garu eich hun, mae Sain Ffagan yn cynnig ffordd wahanol i ymwelwyr i fynegi eu teimladau - llwy garu ddigidol a phersonol y gallwch e-bostio. Fe allwch greu llwy garu a dewis symbolau eich hunain trwy ddefnyddio gêm ryngweithiol yn Oriel 1.

Yn ogystal, dewch i fwynhau arddangosfa cerfio llwyau caru gyda’ch ffrindiau yn yr Amgueddfa ar 25 Ionawr (10am - 5pm) neu dewiswch rhwng clustog â llwy garu arni neu mwclys llwy garu Aur Clogau o siop yr Amgueddfa.

“Mae llwy garu hynaf casgliad yr Amgueddfa yn dyddio nôl i 1667 ond mae’r traddodiad o ddefnyddio llwy i ddangos cariad dal yn boblogaidd heddiw,” dywedodd Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol. “Mae nifer o symbolau yn cael eu defnyddio - y galon yw’r mwyaf poblogaidd. Cawn hefyd yr olwyn sydd yn cynrychioli olwyn bywyd a rhywun sydd yn fodlon gweithio’n galed ar ran ei gariad neu ei chariad; mae bowlenni dwbl yn golygu undeb cariadus; ac angor yn awgrymu awydd i setlo mewn cartref cariadus.”

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i’r Golygydd:

 

Stori Santes Dwynwen

Dethlir Diwrnod Santes Dwynwen yng Nghymru ar 25 Ionawr i'w choffáu fel nawddsant cyfeillgarwch a chariad.

Roedd Dwynwen yn byw yn ystod y 5ed ganrif, yn un o'r harddaf o 24 merch Brychan Brycheiniog. Yn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.

Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu'r holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.

Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.