Datganiadau i'r Wasg

Dysgu'r hen i'r newydd

Swyddog Addysg newydd i Amgueddfa Wlân Cymru

Joanna Thomas yw Swyddog Addysg newydd Amgueddfa Wlân Cymru a’i huchelgais o fewn y rôl honno yw sicrhau fod stori un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru yn cael ei hadrodd i hyd yn oed mwy o bobl.

Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru ym Mhentref tlws Dre-fach Felindre oedd unwaith yn ganolbwynt y diwydiant gwlân. Tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, y diwydiant gwlân gynhaliodd y gymuned wledig Gymeig - roedd cribo, nyddu a gwau yn rhan arferol o fywyd yn y cartref.

Felly’n rhan mor bwysig o’n diwylliant, mae Joanna’n awyddus iddo fod yn rhan hanfodol o addysg plant lleol hefyd:

“Ar safle’r hen Felin Cambrian, mae Amgueddfa Wlân Cymru’n lleoliad perffaith i gyflwyno grwpiau ysgol i’r diwydiant wlân Cymreig. Gyda pheiriannau hanesyddol, dillad gwlân i’w trio ac atgofion pobl o’r diwydiant, mae digon o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu am bwysigrwydd gwlân yng Nghymru.” 

Bu Joanna’n Bennaeth yr adran Gelf yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli cyn symud i weithio fel Swyddog Ieuenctid ar brosiect rhyngweithiol yn Sir Gaerfyrddin. Ond gweithio i Amgueddfa fu uchelgais Joanna ers gadael yr ysgol. Dywedodd:

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion lleol i greu pecynnau addysgiadol i’w siwtio nhw. Rydw i hefyd yn gyfrifol dros ddatblygu rhaglen ddigwyddiadau ac yn awyddus i siarad gyda phobl leol yngl?n â pha fath o weithgareddau hoffan nhw weld yn yr Amgueddfa.”

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.