Datganiadau i'r Wasg

Stori'r sant

Trafodaeth Dydd G?yl Dewi gan Dr John Davies a Dr Elin Jones

Bydd picau ar y man am ddim i ymwelwyr, cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ac adrodd straeon i gyd yn rhan o ddathliadau Mawrth y 1af yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, sy'n 60 oed eleni. Ond pam ydyn ni fel cenedl yn neilltuo diwrnod arbennig i Dewi Sant ac a ddylai'r achlysur fod yn ddydd g?yl yng Nghymru?

Bydd y cwestiynau yma'n destun trafodaeth gan yr haneswyr Dr John Davies a Dr Elin Jones yn Oriel 1, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru am 3 y prynhawn, 1 Mawrth 2008. Bydd Dr Davies a Dr Jones yn trafod Dewi Sant yng nghyd-destun seintiau eraill Cymru - rhai ohonynt yn adnabyddus ar draws y byd ac eraill yn fwy cyfarwydd yn lleol - a pherthnasedd ein nawddsant i ni yng Nghymru heddiw.

“Rydyn ni'n falch iawn fod Dr John Davies a Dr Elin Jones yn ymuno â ni ar Fawrth y cyntaf,” dywedodd Matthew Davies, Cydlynydd Gweithgareddau Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. “Fel Amgueddfa, hoffwn rannu gwybodaeth gyda phobl yngl?n â phwy oedd Dewi Sant a pham ydyn ni dal yn cofio amdano.”

Bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru'n dathlu o 10am - 5pm gyda cherddoriaeth, adrodd straeon, celf a chrefft a gall ymwelwyr fwynhau mynediad am ddim i'r safle, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fel rhan o'r diwrnod, cynhelir taith o gwmpas y safle gydag arweinydd Byddar am 2pm. Cadwch le drwy anfon e-bost at boxoffice@amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar ein gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar ffon: 029 2057 3486/07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.