Datganiadau i'r Wasg

Ceffylau neu ferlod pwll?

Mae llyfr diweddaraf y cyhoeddwyr arobryn Llyfrau Amgueddfa Cymru yn ateb y cwestiwn...

Mae merlyn yn llai na 14 dyrnfedd o daldra; defnyddiwyd merlod yn helaeth yn Lloegr, ond roedd natur glo Cymreig yn golygu bod angen anifeiliaid mwy - sef y ceffylau pwll.

Mae'r llyfr prydferth hwn yn darlunio byd, gwaith a thynged yr anifeiliaid hynod hyn. Mae'n cynnwys atgofion byw'r glowyr o weithio danddaear gyda'r ceffylau; mae rhai o'r glowyr yn cofio'n dyner am geffylau unigol, gan gynnwys nodweddion eu cymeriadau unigryw.

Ond mae calon y llyfr yn holi'r cwestiwn, sy'n parhau i fod yn ddadleuol heddiw: a ellir eu hystyried fel anifeiliaid anwes oedd yn hanfodol i'r broses o gynhyrchu glo, neu a yw'r disgrifiad ohonynt fel ‘wretched, blind pit ponies' a gafodd eu cam-drin yn agosach ati? Dywed yr awdur, Ceri Thompson (Curadur Glo Bit Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, a chyn-löwr):

"Efallai bod y coliars yn cydymdeimlo â'r anifeiliaid, ond gallent hefyd droi llygad ddall at greulondeb neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain, yn enwedig os oedd bygythiad i'w cyflog.

Bwyd c?n fu'r gweithwyr pedair coes hyn yn y pendraw - ond hebddyn nhw ni fyddai'r chwyldro diwydiannol wedi digwydd."

Nid yw'r llyfr hwn yn ceisio cynnig ateb syml; yn hytrach mae'n cyflwyno'r dystiolaeth gan ddisgrifio caledi'r gwaith corfforol, a'r agosatrwydd a ddatblygodd rhwng y coliars a'r ceffylau. Yn anad dim, mae'r llyfr hwn yn eu coffáu.

Cyhoeddir Cyfaill neu Gaethwas: ceffylau'r pyllau glo gan Llyfrau Amgueddfa Cymru am £8.99.

Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth.

Caiff y llyfr ei lansio fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Big Pit ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill.