Datganiadau i'r Wasg

Cynnydd o 20% o ymwelwyr i'r Amgueddfa Wlân

Mwy o ymwelwyr, staff a chasgliadau i Amgueddfa Wlân Cymru

Mae tîm Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ger Castellnewydd Emlyn yn dathlu cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a ddaeth i’r safle dros y 12 mis diwethaf, i’w gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. 

O Ebrill 2007 hyd at Fawrth 2008 fe groesawodd yr Amgueddfa Wlân, un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru sy’n gartref i gasgliad tecstilau’r wlad, 21,755 o ymwelwyr. Mae hyn yn gynnydd o 20% i’w gymharu â 2006-07.

“Ers Rhagfyr 2006, mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi datblygu o ran y safle a beth sydd gan yr Amgueddfa i’w chynnig. Caiff hyn ei hadlewyrchu yn y nifer o ymwelwyr sy’n cael eu denu yma erbyn hyn,” dywedodd Ann Whittall a benodwyd fel Rheolwr yr Amgueddfa 18 mis yn ôl.  

“Mae’n chwarae rôl bwysig yn y gymuned leol fel lle i gwrdd, lle sy’n cynnal digwyddiadau a rhannu sgiliau gyda phobl o’r ardal. Ac mae twristiaid yn gadael yr Amgueddfa wedi dysgu am bwysigrwydd gwlân i Gymru.”

Gall ymwelwyr wrando ar atgofion pobl o’r diwydiant a gweld gwlanen yn cael ei gynhyrchu yn y felin weithredol ar y safle. 

“Mae’r Amgueddfa wedi derbyn casgliad newydd o ddillad gwlân a wnaethpwyd yn yr hen Felin Cambrian, cartref yr Amgueddfa erbyn heddiw,” parhaodd Mrs Whittall. “Caiff y dillad yma o’r 60au a’r 70au sy’n cynnwys crysau, sgertiau mini a hot pants, eu harddangos o Orffennaf 2008 ymlaen.”  

Yn ogystal mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi penodi chwe aelod newydd o staff, yn barod ar gyfer tymor yr haf gan gynnwys crefftwr newydd sydd wedi ymuno â’r tîm sy’n gweithredu’r peiriannau. Daw Kevin Evans o Landysul. Dywedodd:

“Mae fy mhenodiad fel crefftwr yn Amgueddfa Wlân Cymru yn rhoi’r cyfle i mi weithio mewn maes dwi’n gallu uniaethu â hi. Dechreuais i’m gyrfa fel peiriannydd mewn garej heddlu ac mae gwaith ymarferol a mecanyddol wedi bod o ddiddordeb i fi erioed.”

Ceir rhagor o wybodaeth yngl?n â’r Amgueddfa a’r digwyddiadau a gynhelir yno gan gynnwys Ffair Grefftau gyda Chrefftwyr Ceredigion o 10yb - 4yp ar 5 Mai 2008, ar www.amgueddfacymru.ac.uk. Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3185 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.