Datganiadau i'r Wasg

Cân a Cappuccino

Côr Meibion Cwmbach i berfformio yng Nghaffi Bardi Sain Ffagan

ar drothwy eu taith i’r Eidal

Croesawir ymwelwyr i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar 18 Mai 2008, gan Gôr Meibion Cwmbach a fydd yn perfformio yng nghaffi poblogaidd yr Amgueddfa awyr agored cyn eu taith i’r Eidal ar ddiwedd mis Mai.

 

Bydd Côr Cwmbach o Gwm Cynon yn dychwelyd i’r Eidal fis yma yn dilyn eu taith lwyddiannus i Ogledd Ddwyrain yr Eidal yn 2007. Trefnwyd taith y côr i Bardi, Parma a San Remo gyda chefnogaeth Amici Val Ceno -  cymdeithas pobl alltud Bardi De Cymru. Ond bydd eu taith yn dechrau yng Nghaffi Eidalaidd-Gymreig Sain Ffagan, Caffi Bardi. 

 

“Dewiswyd yr enw Caffi Bardi er mwyn dangos pwysigrwydd y gymuned Gymreig-Eidalaidd sy'n bodoli yn ne Cymru,” dywedodd Sioned Hughes, Curadur yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. “Bydd yn bleser i gael Côr Cwmbach, sydd drwy’r fenter hon yn tanlinellu’r cyswllt cryf rhwng y ddwy wlad, i berfformio yn Sain Ffagan.” 

 

Ffurfiwyd Côr Cwmbach yn 1921 - y cyntaf i gael ei wahodd gan Undeb Rygbi Cymru i berfformio ym Mharc yr Arfau cyn gem rygbi rhyngwladol. Mae’r côr wedi perfformio mewn sawl lleoliad adnabyddus yng Nghymru a dramor gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, The Royal Festival Hall, The Barbican a Thompson Hall yn Toronto.

 

Yn edrych ymlaen at ychwanegu Sain Ffagan i’w restr o leoliadau, bydd y côr yn perfformio’n Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, Sain Ffagan am 2pm & 3pm ar ddydd Sul, 18 Mai ac yn gorffen yr ymweliad yng Nghaffi Bardi am 4pm. 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon (029) 2057 3185 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.