Datganiadau i'r Wasg

Meithrin hen grefft

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cydweithio’n agos â ConstructionSkills i ddod o hyd i ddau aelod newydd i ymuno â’i dîm o grefftwyr a gweithwyr sy’n arbenigo mewn ail-greu ac adfer adeiladau o bob rhan o Gymru ar safle’r Amgueddfa gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Mae staff Uned Adeiladau Hanesyddol (UAH) yr Amgueddfa yn symud adeiladau sydd mewn perygl o gael eu dymchwel o bob cwr o Gymru, ac yn eu hailgodi yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a rhoi cyfle iddynt helpu i adrodd stori’r Cymry.

 

“Mae gan yr UAH 12 o weithwyr gan gynnwys seiri maen, seiri coed, peintwyr, plastrwyr a gweithiwr metel,” meddai  Janet Wilding, Rheolwr Project yr UAH. “Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gweithio yma ers gadael yr ysgol ac maent wedi cael eu hyfforddi wrth wneud y gwaith. Mae eu gwybodaeth am y dulliau arbenigol a ddefnyddir i godi’r adeiladau’n anhepgor, ac mae eu sgiliau gyda thechnegau adeiladu traddodiadol ac wrth ddefnyddio deunyddiau traddodiadol yn hanfodol i waith yr UAH.” 

 

Mae dros 40 o adeiladau yn Sain Ffagan ac er bod y mwyafrif wedi cael eu symud i’r adeilad o wahanol ardaloedd o Gymru, roedd rhai ohonyn nhw’n rhan o’r ystâd wreiddiol, fel Castell Sain Ffagan a ffermdy Llwyn-yr-Eos. Mae gan bob adeilad ei sialensiau arbennig i’r UAH, o’r ffermdy ffrâm nenfforch a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1508 i’r pre-ffab alwminiwm o 1948. 

 

Mae’r adeiladau eu hunain yn wrthrychau amgueddfaol ac yn cael eu defnyddio fel adnoddau addysgol. Trwy gadw cymaint o’r ffabrig gwreiddiol â phosibl a defnyddio tystiolaeth a gwaith ymchwil archeolegol, gall Sain Ffagan arddangos yr adeiladau fel yr oeddent ar adeg benodol mewn hanes. 

 

John Williams-Davies yw Cyfarwyddwr Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Meddai: 

 

“Bu tîm mewnol Sain Ffagan yn gyfrifol am gofnodi, datgymalu ac ailgodi Eglwys Saint Teilo, a agorwyd yn swyddogol yn yr Amgueddfa yn Hydref 2007. Ers hynny, mae’r adeilad wedi bod ymysg atyniadau mwyaf poblogaidd Sain Ffagan, ac mae llawer o bobl wedi rhyfeddu at waith ein crefftwyr a’n gweithwyr, gan gynnwys y groglofft newydd a gerfiwyd â llaw.”

 

Bydd prif saer coed yr Amgueddfa, Ray Smith, a fu’n gyfrifol am yr holl waith cerfio yn Eglwys Sant Teilo, yn ymddeol cyn bo hir. O’r herwydd, mae’r Amgueddfa wedi penderfynu cynnig dwy brentisiaeth mewn gwaith coed a gwaith maen er mwyn sicrhau parhad crefftau traddodiadol yng Nghymru. 

 

I gloi, dywedodd Mr Williams-Davies: “Mae’r Amgueddfa’n ymfalchïo yn y ffaith fod ein crefftwyr yn defnyddio hen ddulliau traddodiadol, sydd heb os yn rhan o hud Sain Ffagan.”

 

Meddai Wyn Prichard, Cyfarwyddwr ConstructionSkills Cymru: “Rydyn ni wedi cymryd camau breision i sicrhau bod mwy o bobl yn ymgymryd â’r crefftau adeiladu traddodiadol yma sydd mor bwysig wrth gynnal adeiladau treftadaeth y wlad. Mae’r prentisiaethau yn Sain Ffagan, sy’n sicr o fod yn ddiddorol dros ben diolch i natur bwysig a chyffrous gwaith yr Amgueddfa, yn enghraifft wych o’r ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni hyn.”

 

Cynigir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i olygyddion

 

Mae ConstructionSkills yn gweithredu ledled Prydain ac yn cynrychioli’r diwydiant i gyd, o ymgynghorwyr proffesiynol i gontractwyr mawr a busnesau bychain. Fe’i sefydlwyd fel Sector Skills Council yn 2003, ac mae’r Llywodraeth wedi rhoi’r dasg i ConstructionSkills i sicrhau bod gan ddiwydiant mwyaf Prydain y gweithlu medrus angenrheidiol. Gan weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, mae’n gyfrifol am sicrhau bod digon o weithwyr newydd cymwys yn cychwyn yn y diwydiant a bod y gweithlu presennol yn fedrus ac yn gymwys. Mae’n gyfrifol hefyd am wella perfformiad y diwydiant a’r cwmnïau sy’n gweithio oddi mewn iddo.