Datganiadau i'r Wasg

Codi Stêm At Y Sulgwyn!

Mae'r olwynion yn troi am Sulgwyn ysblennydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae'r replica o Locomotif Penydarren yn paratoi i godi stêm (os yw'r tywydd yn caniatáu ar 31 Mai ac 1 Mehefin. Yn ogystal, ar 1 Mehefin bydd arddangosfa o geir Gilbern prin a hen injans tân. Cewch gyfle hefyd i brynu cynnyrch ffres a chrefftau ym Marchnad Cynnyrch Lleol Misol y Glannau.

Bydd digonedd o hwyl yn eich disgwyl chi hefyd – gwnewch gar K'nex a chymryd rhan mewn ras arbennig (28, 28,30 Mai). Neu dewch i weld ein doli wrth-swffragetaidd hyll a gwneud eich doli'ch hun o begiau (25, 26, 27 Mai).

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n rhan o Amgueddfa Cymru sy'n gweithredu chwech amgueddfa genedlaethol arall ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Cewch fynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.