Datganiadau i'r Wasg

Penwythnos Pren

Bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn canolbwyntio ar bren ar 31 Mai a 1 Mehefin 2008, yn gadeiriau eisteddfodol, clocsiau neu gerfiadau ar gyfer Eglwys Ganoloesol.

Bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn canolbwyntio ar bren ar 31 Mai a 1 Mehefin 2008, yn gadeiriau eisteddfodol, clocsiau neu gerfiadau ar gyfer Eglwys Ganoloesol.

Trefnwyd ‘Penwythnos Pren' Sain Ffagan ar y cyd gyda Choed Cymru ac fe'i cynhelir yn yr Amgueddfa awyr agored o 10am - 5pm ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul. Dewch i ddarganfod sut y defnyddiwyd pren gan ein hynafiaid a gweld sgiliau crefft draddodiadol sy'n cael eu defnyddio heddiw.

Bydd Coed Cymru yn dangos eu fersiwn cyfoes o'r T? Unnos: system dai gyffrous fforddiadwy ac arloesol sy'n defnyddio coed cartref.

Mae Geraint Parfitt, un o'r ychydig rai dros Brydain sydd yn dal wrthi'n cynhyrchu clocsiau â llaw, yn grefftwr llawn amser sy'n arddangos ei waith yn Sain Ffagan. Bydd yn dangos sut mae'n cynhyrchu clocsiau traddodiadol Cymreig o sycamorwydden.

Ar Ddydd Sadwrn bydd y saer Ray Smith - un o brif aelodau'r tîm wnaeth adfer Eglwys Sant Teilo - yn siarad am y sgrin-grog, a wnaed yn arbennig ganddo ar gyfer yr eglwys.  Defnyddiodd yr un offer, deunydd a thechnegau ag a ddefnyddiwyd canrifoedd yn ôl.  Ewch i weld y saer troliau a'r gof, a fydd yn gwneud teiars haearn ar gyfer olwynion pren berfa, neu at Gymdeithas Cerfwyr Pren Prydain i weld eu harddangosfa arbennig.

Caiff dodrefn Cymreig sylw drwy sesiynau a gynhelir gan y cadwraethydd dodrefn Emyr Davies, bydd yr artist Gudrun Leitz fydd yn arddangos ei sgiliau o wneud cadeiriau ac ar y Sul bydd yr awdur Richard Bebb yn siarad am ‘Esblygiad y Gadair yng Nghymru'.

Bydd cyfle hefyd i edmygu cadeiriau Eisteddfod o gasgliadau'r Amgueddfa. Bydd Dr Sioned Williams, curadur dodrefn Sain Ffagan yn egluro pwysigrwydd y gadair farddol yn nhraddodiad yr Eisteddfod. Dywedodd:

"Mae GorSEDDI, arddangosfa gyfredol Oriel 1 (3 Mai - 11 Awst) nid yn unig yn edrych ar hanes cystadlu am gadair yng Nghymru, ond hefyd y mathau gwahanol o gadeiriau a gerfiwyd a'r storiau unigryw sy'n gysylltiedig gyda phob cadair.''

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.