Datganiadau i'r Wasg

Perthyn i'r Urdd

Arddangosfa newydd yn Sain Ffagan i ddadorchuddio straeon a chyfrinachau'r Cymry am yr Urdd.

Ydych chi'n Urddaholic? A wnaethoch chi gwrdd â'ch ffrind ‘gog' cyntaf yng Nglanllyn? Ydych chi'n gyfarwydd â chân y Super Furry Animals am drôns Mr Urdd?

Bydd Amgueddfa Cymru'n lansio apêl ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy heddiw (28 Mai 2008) yn gofyn am straeon a gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'r Urdd - prif fudiad ieuenctid Cymru. Yr hyn a gesglir fydd sail arddangosfa newydd a gynhelir yng ngaleri Oriel 1, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru blwyddyn nesaf.

Yn rhedeg o Ebrill hyd at Orffennaf 2009, bydd yr arddangosfa nid yn unig yn edrych ar wahanol gyfnodau o hanes yr Urdd ond hefyd ar agweddau amrywiol y mudiad - o gystadlu i gymdeithasu.  "Prif bwrpas Oriel 1 yw ysgogi ymwelwyr i ystyried beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry a pherthyn i Gymru," dywedodd Nia Williams, Cydlynydd Addysg Sain Ffagan. "Bydd yr arddangosfa fydd yn ffocysu ar yr Urdd - mudiad sydd â dros 50,000 o aelodau - yn edrych ar ddylanwad y corff ar Gymry dros y degawdau diwethaf gan ysgogi atgofion ar draws y cenedlaethau.

"Do bu Huw Edwards, Bryn Terfel a Glyn Wise yn aelodau balch o'r Urdd. A dyma gyfle i bawb yng Nghymru a thu hwnt fynegi eu teimladau ynglyn â pherthnasedd yr Urdd iddyn nhw hefyd."

Caiff ymwelwyr i faes yr Eisteddfod eleni'r cyfle cyntaf i gynnig gwybodaeth perthnasol, drwy lenwi cardiau post fydd ar stondin yr Amgueddfa ac wrth y brif fynedfa. Bydd curaduron wedyn yn cysylltu â'r gwirfoddolwyr i drafod eu cynigion, ac yn y pen draw yn creu arddangosfa yn Oriel 1 yn 2009, pan fydd Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:"Mae hanes Urdd Gobaith Cymru yn ganolog i hanes bywyd diwylliannol aieithyddol Cymru.  Bydd cynnal yr arddangosfa yn Oriel 1 yn Sain Ffaganyn bwysig wrth i ni gofio'r gorffennol a pharatoi ar gyfer y dyfodol.Ry'n ni'n ddiolchgar am y cyfle i rhannu ein hanes â phobol Cymru."

Cynigir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.  DiweddAm ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion

Agorwyd Oriel 1 ym mis Mawrth 2007. Defnyddia wrthrychau, lluniau, ffilmiau, celf, straeon a phrofiadau personol i ddangos beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro neu'n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw. Drwy archwilio'r thema Perthyn, mae'r Oriel yn egluro fod nifer o ffyrdd gwahanol o deimlo'n rhan o'n gwlad.

Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae'r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru. Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk