Datganiadau i'r Wasg

Ffasiwn yn cael ei ddatguddio trwy drysor

Amgueddfa Cymru gam yn agosach at ffasiwn y Gymru Ganoleoseol

Mae’n debygol daw dwy fodrwy ganoloesol, a ddyfarnwyd yn drysor gan Grwner Ei Mawrhydi ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg ddoe (15 Mai 2008), yn rhan o gasgliad archeolegol Amgueddfa Cymru.

Y ddwy’n fodrwyon addurnedig, mae un yn fodrwy aur o’r 12fed ganrif â chwarts rhosliw. Mae gan yr ail - sy’n nodweddiadol o’r 13eg ganrif - befel hirgrwn gydag 11 o ‘betalau’ sy’n sefyll allan, a garned almwnt bychan heb ei dorri.

Yn dilyn prisiad gan y Pwyllgor Prisio Trysor Annibynnol, bydd Amgueddfa Cymru’n bwrw ymlaen â’i hamcan i’w derbyn i’r casgliad er mwyn eu harddangos yn yr Amgueddfa’n y dyfodol. “Mae gwrthrychau o gasgliad archeoleg yr Amgueddfa, fel yr rhai sy’n rhan o’r arddangosfa Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn adrodd yr hanes ynghylch sut roedd pobl yn byw yng Nghymru,” dywedodd y Canoloesydd Dr Mark Rednap. “Mae’r modrwyon addurniadol yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r stori hwn o ran ffasiwn, steil ac agweddau eraill ar fywyd yn y Gymru Ganoloesol.”

Darganfuwyd y fodrwy gyntaf yn y Rhws ar 12 Medi 2007 a’r llall yn Llanfair, Bro Morgannwg ar 3 Gorffennaf 2007. Dyma ddau o 10 eitem a gadarnhawyd yn drysor yn ystod y gwrandawiad ddoe.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. DiweddAm wybodaeth pellach, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185/07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion

Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar

Detholiad bach o’r llu o bethau hynod a ddarganfuwyd yng Nghymru yw’r pethau a ddewiswyd i’w harddangos yn Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar – gwrthrychau sy’n ein helpu ni i ddeall ein hunain, a’r Gymru sydd ohoni. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

-    Claddedigaeth ddynol ffurfiol gyntaf Gorllewin Ewrop

- ‘Dynes Goch Pen-y-fai’; -    Arddull gelf dau-ddimensiwn yng Nghymru – carreg Bryn Celli Ddu o Fôn;

- Patrymau diamser mewn aur o Gymru’r Oes Efydd, fel breichledi Capel Isaf a chrogaddurn celc Burton;

- Crair prin o gyfnod y Diwygiad – ffigur peintiedig Crist o’r 13eg ganrif o grog (croes) a ddarganfuwyd ynghudd y tu ôl i wal ar y grisiau i’r groglofft yn Eglwys Cemaes, Sir Fynwy, yn y 19eg ganrif.

Gan ganolbwyntio ar bobl a newid, caiff perthnasedd i’r byd modern ei esbonio’n weledol. Mae celf, ffotograffiaeth, cerfluniau, cerddoriaeth ac animeiddio yn yr oriel hefyd, gan gynnwys gweithiau newydd a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa.