Datganiadau i'r Wasg

Tirluniau Cymreig gwych ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd y sylw ar dirluniau Cymreig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am y tro cyntaf o 3 Gorffennaf, wrth iddi lansio pedair oriel newydd sy’n dathlu celf yng Nghymru.

Mae gan y pedair oriel ffocws arbennig ar dirluniau a chelfyddyd Cymru, a daw’r holl elfennau hyn at ei gilydd yn Oriel Tirluniau Cymru, lle trawiadol sy’n edrych ar ymateb artistiaid i Cymru a’r ffordd y mae’r wlad wedi eu hysbrydoli dros fwy na thri chan mlynedd.

Mae mynyddoedd a llynnoedd rhyfeddol y gogledd, a bryniau hardd a diwydiannau trwm y de wedi bod yn ffynonellau ysbrydoliaeth artistig ers tro byd. Mae Cymru’n dal i ddenu artistiaid hyd heddiw, i edrych ar y wlad a’r dirwedd sy’n dal i newid.

Yn yr orielau newydd eraill, bydd ymwelwyr yn dysgu am fywydau pedwar artist Cymreig o’r ddeunawfed ganrif a dreuliodd yrfaoedd hir yn yr Eidal a Llundain – Richard Wilson, Thomas Jones, William Parry a John Downman. Mae arddangosfa arall o frasluniau olew bychain o Gymru a’r Eidal. Mae’r olaf o’r orielau newydd cain hyn yn gosod artistiaid a chasglwyr Cymru yng nghyd-destun ehangach eu hoes ac yn cynnwys nifer o weithiau o’n casgliad gwych o’r ddeunawfed ganrif. Bydd oriel newydd o luniau a cherfluniau Oes Victoria, ynghyd ag oriel o ddelweddau o Gymru’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ugeinfed ganrif, yn dilyn yn Rhagfyr 2008.

Mae’r gwaith, a ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, Sefydliad Wolfson a sawl cyfrannwr preifat, wedi trawsnewid y ffordd y cyflwynir y casgliad cenedlaethol. Mae’r orielau newydd hyn yn canolbwyntio ar dreftadaeth artistig arbennig Cymru, wrth gofleidio celf Gymreig a’r byd yn ein straeon hefyd.

Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, “Bydd yr orielau hyn yn bodloni anghenion holl gwmpas ymwelwyr yr Amgueddfa. Mae ein casgliad gwych o weithiau gan artistiaid Cymreig yn ysbrydoledig. I gydategu’r testun a’r graffeg newydd ar y waliau, bydd pwyntiau dysgu sy’n cynnig gweithgareddau ymarferol soffistigedig ar gyfer pobl iau. Mae hyn yn gam anferth yn y ffordd y mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dehongli ei chasgliadau.”

Mae’r orielau’n dangos amrywiaeth ehangach o wrthrychau, cyflwyno celf gyfarwydd mewn ffyrdd newydd ac edrych ar themâu a syniadau newydd wrth greu lle ar gyfer addysg ac arferion cyfoes byd celf.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithio tuag at greu amgueddfa gelf genedlaethol ar lawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma un cam mewn taith hir tuag at greu oriel gelf genedlaethol i Gymru. Mae’r sefydliad yn ymdrechu i greu Amgueddfa sy’n cyfoethogi bywydau pobl o Gymru a’r tu hwnt.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i’r holl safleoedd am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 029 2057 3185/07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion

Erbyn dechrau Gorffennaf 2008 bydd yr orielau canlynol ar agor i’r cyhoedd ar eu newydd gwedd:

Celf ym Mhrydain 1700 - 1800

Mae’r ffocws ar artistiaid Cymreig yn y 18fed Ganrif yn arbennig ar dri pherson - Richard Wilson, Thomas Jones, William Parry. Mae’r oriel yn cynnwys y darlun enwog ‘Y Bardd’ gan Thomas Jones.

Pwer y Dirwedd: Oriel Tirluniau Cymru

Gan gynnwys:

‘Bull's Head’ gan Heather Ackroyd

Mae hon yn esiampl o artistiaid yn defnyddio deunyddiau go iawn o’r tirwedd e.e. gwair. Gwiniwyd y gwair ar hessian.

‘Tenby’ gan Francis Place, c.1678, y darn hynaf i’w harddangos.

Darlun William Hodges - ‘Ruins of Llanthony Abbey.’

Peintio o natur: Brasluniau olew o’r Eidal a Chymru Mae’r oriel yma’n cynnwys gweithiau poblogiadd, sydd nawr â lle arbennig er mwyn eu harddangos ar eu gorau. e.e. gwaith gan Thomas Jones sef un o’r cyntaf i ddenfyddio’r dull yma o beintio, ac eraill gafodd eu hysbrydoli gan yr Eidal.

Artistiaid Cymreig y Ddeunawfed Ganrif mewn ffocws

Yn ganolbwynt i’r oriel hon y mae organ Syr Watkin Williams-Wynne (1774). Mae’n archwilio datblygiad celf yng Nghymru’n y 18fed Ganrif. Yn ogystal a gweithiau celf gan artistiaid fel Thomas Lawrence a George Romney, mae hefyd yn cynnwys eitemau oedd yn berchen i Syr Williams-Wynne, y Cymro mwyf cyfoethog o’r cyfnod.

Cynhelir rhagolwg i’r wasg o’r orielau o 10 y bore – 12 y prynhawn ar ddydd Mercher 2 Gorffennaf 2008 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Agorir yr orielau’n swyddogol i’r cyhoedd ar ddydd Iau 3 Gorffennaf 2008.