Datganiadau i'r Wasg

Cynlluniau pwysig i arddangos celf yng Nghymru

Mae adroddiad newydd yn cynnig syniadau am oriel gelf genedlaethol, ynghyd a chanolfan celf gyfoes.

Yn 2007 comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygiad i ystyried y dewisiadau ar gyfer datblygu oriel genedlaethol i Gymru, fel rhan o'r cytundeb 'Cymru'n Un'. Gofynnwyd i Amgueddfa Cymru arwain y gwaith o benodi ymgynghorwyr i gyflawni’r adolygiad, oedd hefyd yn cynnwys y posibilrwydd o sefydlu canolfan celf gyfoes i Gymru.

Roedd y gr?p llywio oedd yn goruchwylio'r penodiad yn cydnabod bod unrhyw gynnig i sefydlu Oriel Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gofyn am ystyried goblygiadau hyn ar ein casgliadau Hanes Natur, felly ehangwyd briff yr ymgynghorwyr er mwyn galluogi iddynt ystyried yr elfen hon hefyd.

Cyflwynwyd yr adroddiadau terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Hydref 2008 a chawsant eu trafod gan y Gweinidog Treftadaeth mewn Cyfarfod Llawn yn y Senedd. Mae’r adroddiadau ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.